Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gyfun Aberaeron
| Company: | Ceredigion County Council |
|---|---|
| Salary: | £25,185 |
| Hours: | Part-time |
| Location: | SA46 0PA |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 1 Aug 2026 |
| Closing date: | 31 Aug 2026 |
Summary
Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn gymuned glós, fywiog a naturiol ddwyieithog sy’n meddu ar ethos sy’n adlewyrchu’r ardal yn nhermau iaith a diwylliant. Ymfalchïwn yn yr hanes hir o lwyddiant sydd i’r ysgol yn academaidd ac mewn amryw o feysydd allgyrsiol, a’r gefnogaeth bersonol a gaiff pob disgybl.
Mae Corff Llwodraethol Ysgol Gyfun Aberaeron yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu profiadol Lefel 2 i gefnogi disgyblion sy'n astudio cwricwlwm sy'n seiliedig ar sgiliau bywyd yng Nghanolfan Y Mor. Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol o fantais.
Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â ruglder yn y Gymraeg os yn bosib.
Mae croeso i unrhyw ymgeisydd gysylltu gyda’r Pennaeth ADY am sgwrs anffurfiol.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma [https://careers.ceredigion.gov.uk/cy/bywyd-ceredigion/yr-hyn-a-gynigiwn/].
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106790c.pdf]
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.
Related jobs
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gyfun Aberaeron
from £25,185 per year, pro rata
Ceredigion County Council
On-sitePermanentPart timeCynorthwyydd Arlwyo Wrth Gefn
from £24,796 per year
Ceredigion County Council
On-siteTemporaryFull timeDerbynnydd - Ysgol Gyfun Penglais
£26,403 to £27,694 per year
Ceredigion County Council
On-sitePermanentFull time