Derbynnydd - Ysgol Gyfun Penglais
| Company: | Ceredigion County Council |
|---|---|
| Salary: | £26,403 - £27,694 |
| Hours: | Full-time |
| Location: | SA46 0PA |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 25 Jul 2026 |
| Closing date: | 24 Aug 2026 |
Summary
Rydym yn awyddus i benodi Derbynnydd rhagorol a all weithio yn annibynnol er mwyn rheoli derbynfa hynod brysur, yn ogystal â gweithio fel rhan o’r tîm gweinyddol ehangach. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd deinamig a phrysur iawn, lle mae gallu meddwl a gweithredu'n gyflym ac yn ddigymell yn hanfodol. Bydd disgwyl i chi fod gyda sgiliau cyfathrebu proffesiynol rhagorol; y gallu i flaenoriaethu; bod yn hyblyg a gallu bod gyda meddwl clir tra o dan bwysau. Byddwch yn mwyhau gweithio gyda disgyblion, staff a rhieni ac yn gallu cyfathrebu gwybodaeth mewn modd amserol ac effeithiol.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeisydd uchelgeisiol gael chwarae rôl allweddol i gynyddu uchelgeisiau a llwyddiannau ein disgyblion, ac felly yn cyfrannu at siwrnau Ysgol Penglais i fod yn ysgol ragorol.
Mae gan Ysgol Penglais lawer i’w gynnig:
- ysgol sydd yn seiliedig ar waith ymchwil gyda pherthnasau da rhwng staff a disgyblion,
- ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol staff er mwyn cyrraedd rhagoriaeth,
- agos i dref Prifysgol bywiog Aberystwyth,
- wedi ei leoli ar arfordir bendigedig bae Ceredigion, ardal o hyfrydwch naturiol.
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i’r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost hcl@penglais.org.uk
Pecyn Gwybodaeth [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106807%20CYM.pdf]
Mae Ysgol Penglais yn ymrwymedig i ddiogelu ac annog budd a lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus, ac yn disgwyl i holl staff a gwirfoddolwyr rannu yr ymrwymiad hwn.
Bydd raid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgeisio am DBS a’r archwiliadau eraill sydd yn addas ar gyfer y swydd.
Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.
Cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau 7fed Medi 2026
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.
Related jobs
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 - Arbenigedd Nam Clyw / Arbenigedd Arwyddiaith
£26,403 to £27,694 per year, pro rata
Ceredigion County Council
On-sitePermanentPart timeCynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gyfun Aberaeron
from £25,185 per year, pro rata
Ceredigion County Council
On-sitePermanentPart timeCynorthwyydd Addysgu Lefel 2 x 5 - Ysgol Bro Pedr
from £25,185 per year, pro rata
Ceredigion County Council
On-sitePermanentPart time