This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gyfun Aberaeron

Company:Ceredigion County Council
Salary:£25,185
Hours:Part-time
Location:SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:13 Jul 2026
Closing date:12 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Dosbarth Lefel 2 i cefnogi grwpiau targed o blant ADY yn y dosbarthiadau prif ffrwd Cymraeg a Saesneg gan ddefnyddio ystod eang o strategaethau dwyieithog o dan arweiniad y CADy. Cefnogi'r Cydlynydd Llythrennedd i ddarparu ymyraethau Sillafu a Darllen a Lles yn y Gymraeg a Saesneg ar draws CA 3. Cefnogi'r CADy i ddarparu prosiectau cwricwlwm Amgen ar draws yr oedranau (Grwpiau Cymraeg a Saesneg)   

Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn ysgol ddwyieithog naturiol, a’r nod yw cefnogi pob disgybl i fod yn ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol. Mae dros 570 o ddisgyblion, a dros 90 ohonynt yn y 6ed dosbarth. Amcanwn at greu amgylchedd o waith called, lle gall y disgyblion fwynhau llwyddiant academaidd, a datblygu’n bersonol ac emosiynol, trwy rinwedd gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Anogir y disgyblion i wneud eu gorau, er mwyn cyrraedd y safonau uchaf posib, ac i’w paratoi am fywyd yn ystod, ac ar ôl eu  blynyddoedd ysgol. 

Ynghyd ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae'r ysgol hefyd yn cynnal Canolfan Adnoddau Arbenigol Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu - Canolfan y Môr. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n hyblyg fel rhan o dîm a gallu newid ei ffordd o weithio i ddiwallu anghenion amrywiol y disgyblion.

Fe fydd gofyn i chi

- Ymwneud ag anghenion personol y disgyblion, a gweithredu rhaglenni personol perthnasol, gan gynnwys materion cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf a lles

- Goruchwylio a chefnogi disgyblion ag anghenion addysgol arbennig gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at ddysgu

- Cynorthwyo gyda datblygu, gweithredu ac adolygu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol

- Rhoi adborth i ddisgyblion ynghylch cynnydd, cyflawniad, ymddygiad, presenoldeb, ac ati

- Hyrwyddo cynhwysiant a derbyniad i’r holl ddisgyblion

- Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro neu’r athrawes

- Annog disgyblion i weithredu’n annibynnol, fel y bo’n briodol

Rydym am benodi unigolyn sydd â

- Sgiliau rhifedd/llythrennedd da

- Cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi

- Gweithio’n adeiladol a hyblyg yn rhan o dîm, deal cyfrifoldebau a swyddogaethau’r ystafell ddosbarth a’ch safle bersolol o fewn y swyddogaeth hynny

Fe fydd yr ymgeisydd perffaith yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio’u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi anghenion dysgu’r disgyblion.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106788.pdf]

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 - Arbenigedd Nam Clyw / Arbenigedd Arwyddiaith

£26,403 to £27,694 per year, pro rata

Ceredigion County Council

On-sitePermanentPart time

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 x 5 - Ysgol Bro Pedr

from £25,185 per year, pro rata

Ceredigion County Council

On-sitePermanentPart time

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gyfun Aberaeron

from £25,185 per year, pro rata

Ceredigion County Council

On-sitePermanentPart time
Browse more jobs