This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Cynorthwyydd Arlwyo Wrth Gefn

Company:Ceredigion County Council
Salary:£24,796
Hours:Full-time
Location:SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Temporary
Posting date:18 Jul 2026
Closing date:17 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym am recriwtio Cynorthwyydd Arlwyo l i ymuno â'n tîm arlwyo o fewn Ysgolion neu Cartrefi Preswyl yn Ceredigion fel yr angen. Disgwylir i chi rheoli cegin yr ysgol o ddydd i ddydd yn unol a’r safonau a osodir gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae’r rôl yn cynnwys:

- Dyletswyddau cegin cyffredinol gan gynnwys golchi cyfarpar ac offer cegin a glanhau pob ardal o’r gegin ac oddi amgylch

- Cynnal y safonau glendid uchaf ym mhob ardal o’r gegin ar bob adeg

- Sicrhau y cedwir at safonau Diogelwch Bwyd ac Iechyd yr Amgylchedd

Rydym am recriwtio unigolyn:

- Sydd â gwybodaeth/profiad o weithio mewn amgylchedd arlwyo

- Sy’n gallu addasu i newid

Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma [https://careers.ceredigion.gov.uk/cy/bywyd-ceredigion/yr-hyn-a-gynigiwn/].

Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl, a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i ymgymryd â meysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu datblygu eich gyrfa gyda ni.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106618.pdf]

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Mandy Jones 07789985538. 

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gyfun Aberaeron

from £25,185 per year, pro rata

Ceredigion County Council

On-sitePermanentPart time

Rheolwr Cynorthwyol - Tîm Llety Diogel i Blant

£35,412 to £37,280 per year

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-sitePermanentFull time

Cynghorydd Hyfforddiant - Sgiliau Digidol

£35,412 to £37,280 per year, pro rata

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-siteContractPart time
Browse more jobs