This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Rheolwr Cynorthwyol - Tîm Llety Diogel i Blant

Company:Ceredigion County Council
Salary:£35,412 - £37,280
Hours:Full-time
Location:Penmorfa, SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:30 Jul 2026
Closing date:18 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol Llety Diolgel i Blant o fewn ein darpariaeth Llety Diogel i Blant yng Ngheredigion.   Bydd y rôl hon yn gweithio ar rota ar gyfer sifftiau dydd a nos gan gefnogi anghenion y gwasanaeth. Bydd y rolau hyn yn rhan hanfodol o dîm ehangach gan gynnwys Rheolwr Cofrestredig, Gweithwr Lefel 3 – Gofal a Chymorth ac hefyd gwiethwyr Lefel 2 – Gofal a chymorth.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn frwd dros hybu dull gweithredu o safbwynt arferion sy'n canolbwyntio ar y plentyn, bydd ganddo hanes cadarn o ran ei yrfa mewn gofal preswyl plant neu ddarpariaeth gofal a chymorth tebyg.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion fel gweithiwr i chi gan gynnwys lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol, cymorth cynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles, a chynllun hael o ran cyfraniadau pensiwn.  Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr ar gael yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn rhoi cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol eich rôl ond yn ogystal, byddwn yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Tra ein bod yn chwilio am Unigolion gyda rhywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau Cymraeg yn cael cynnig gwersi wedi'u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir ar ôl cael eu penodi. 

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â sefydliad cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Susan Davies trwy e-bost: Susie.Davies@ceredigion.gov.uk  

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 - Tîm Llety Diogel i Blant

£26,403 to £27,694 per year

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-sitePermanentFull time

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 (Wrth Gefn) - Tîm Llety Diogel i Blant

£26,403 to £27,694 per year

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-siteTemporaryFull time

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 3 - Tîm Llety Diogel i Blant

£28,598 to £30,518 per year

Ceredigion County Council

On-sitePermanentFull time
Browse more jobs