This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Cynghorydd Hyfforddiant - Sgiliau Digidol

Company:Ceredigion County Council
Salary:£35,412 - £37,280
Hours:Part-time
Location:Penmorfa, SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Contract
Posting date:23 Jul 2026
Closing date:12 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym yn edrych i recriwtio Cynghorydd Hyfforddiant –Sgiliau Digidol i ymuno â'n gwasanaeth Dysgu Gydol Oes.

Ynglŷn â'r rôl

Darparu addysgu a hyfforddiant o ansawdd uchel i ddysgwyr sy’n oedolion ar bob lefel a gallu, gan gynnwys rheolwyr a gweithwyr Cyngor Sir Ceredigion, busnesau lleol, gweithwyr addysgu proffesiynol eraill, dysgwyr o sefydliadau eraill a’r gymuned leol.

Ynglŷn yr ymgeisydd

Rydym yn chwilio am diwtoriaid cymwysedig a hyfedr i gyflwyno cyrsiau digidol sylfaenol ac uwch i oedolion.

Mae cymhwyster addysgu Lefel 4 neu uwch a chymhwyster arbenigedd pwnc Lefel 3 gan Sefydliad Dyfarnu cydnabyddedig yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.  Bydd gennych o leiaf 4 blynedd o brofiad o ddarparu addysg oedolion, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o dechnolegau dysgu digidol.  

Bydd gofyn i chi gynllunio, datblygu, cyflwyno, arfarnu ac asesu dysgu o ansawdd uchel, a defnyddio ystod o ddulliau addysgu ac asesu, gan ddilyn canllawiau sefydliadau dyfarnu. 

Oherwydd gofynion y rôl mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â lefel o ruglder yn y Gymraeg ar benodiad. Gweler y fanyleb person am fanylion pellach.

Ein cynnig i chi

Rydym wedi ymrwymo ymrymwedig i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn cynnig cefnogaeth i’ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.

- Flexi-time: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd [https://careers.ceredigion.gov.uk/cy/bywyd-ceredigion/].

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106820.pdf]

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Alison Newby ar 07805 760467 neu ebost alison.newby@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Cynghorydd Hyfforddiant - Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd)

£35,412 to £37,280 per year, pro rata

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-siteContractPart time

Cynghorydd Hyfforddiant - Sgiliau Hanfodol (Rhifedd)

£35,412 to £37,280 per year, pro rata

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-siteContractPart time

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 - Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg

£25,583 to £25,989 per year

Ceredigion County Council

On-siteTemporaryFull time
Browse more jobs