This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Swyddog Craffu a Safonau

Company:Ceredigion County Council
Salary:£35,412 - £37,280
Hours:Full-time
Location:Penmorfa, SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:27 Jul 2026
Closing date:17 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Craffu a Safonau i ymuno â’n Gwasanaethau Democrataidd.

Bydd y rôl yn cynorthwyo i ddarparu cymorth a chyngor mewn perthynas â swyddogaethau trosolwg a chraffu’r Cyngor, gan gefnogi Aelodau Etholedig, cadeiryddion pwyllgorau, swyddogion ac eraill i sicrhau trefniadau craffu effeithiol. Bydd y swydd hefyd yn cefnogi’r rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer Aelodau, hyrwyddo prosesau democrataidd y Cyngor, a chynorthwyo’r Swyddog Monitro gyda swyddogaethau sy’n ymwneud â’r Pwyllgor Moeseg a Safonau.

Byddwch yn trefnu, cydlynu a chefnogi gwaith craffu, gan gynnwys paratoi a chyhoeddi agendâu, cydlynu camau gweithredu, cynorthwyo gydag adolygiadau, paratoi adroddiadau, darparu cyngor ar weithdrefnau llywodraethu, a gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid mewn amgylchedd gwleidyddol sensitif.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â gradd, cymhwyster cyfatebol neu brofiad perthnasol i’r rôl, ynghyd â phrofiad o weithio mewn llywodraeth leol, y sector cyhoeddus neu sefydliad cymhleth aml-swyddogaeth. Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol, gallu i weithio gyda goruchwyliaeth gyfyngedig, sgiliau dadansoddi da, gwydnwch, proffesiynoldeb ac ymwybyddiaeth wleidyddol gadarn.

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu dehongli a chymhwyso Cyfansoddiad y Cyngor, deddfwriaeth a chanllawiau statudol perthnasol, yn ogystal â defnyddio sgiliau TGCh cadarn mewn gwaith bob dydd.

Mae’r swydd yn barhaol, yn llawn amser, 37 awr yr wythnos, Gradd 9, gyda chyflog o £35,412 - £37,280. Mae’r swydd wedi’i lleoli ym Mhenmorfa, Aberaeron gyda threfniadau gweithio hybrid.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon: Lefel 5 ALTE ar gyfer gwrando a siarad, a Lefel 4 ar gyfer darllen ac ysgrifennu.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106817.pdf]

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Nia Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Democrataidd ar nia.jones5@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu

£50,269 to £52,413 per year

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-sitePermanentFull time

Gweinyddydd Cymorth i'r Gwasanaethau

from £25,185 per year

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-sitePermanentFull time

Swyddog Prosiect a Datblygu Busnes

£35,412 to £37,280 per year

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-sitePermanentFull time
Browse more jobs