This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu

Company:Ceredigion County Council
Salary:£50,269 - £52,413
Hours:Full-time
Location:Penmorfa, SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:17 Jun 2026
Closing date:12 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i gael hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnwyd o ganlyniad i'w adleoli i Geredigion. Am wybodaeth bellach anfonwch e-bost at humanresources@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw mae'n ei chynnig cliciwch yma [https://careers.ceredigion.gov.uk/cy/bywyd-ceredigion/ffordd-o-fyw/].

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am unigolyn profiadol ac ymroddedig i arwain gwasanaethau Safonau Masnach a Thrwyddedu  y Cyngor.

Y Rôl

Fel y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu, byddwch yn ymgymryd â rôl gweithredol i arwain a rheoli er mwyn sicrhau bod gwasanaethau Safonau Masnach a Thrwyddedu  yn cael eu darparu’n effeithiol yn unol â gofynion statudol ac i integreiddio gwaith y gwasanaethau hyn o fewn fframwaith corfforaethol, polisïau, gwerthoedd, arferion a blaenoriaethau’r Cyngor.

Yn ogystal, bydd y rôl hon yn cynnwys cyflawni cyfrifoldebau statudol y Cyngor fel Prif Arolygydd Pwysau a Mesurau, Swyddog Safonau Bwyd Arweiniol a Swyddog Bwyd Anifeiliaid Arweiniol.

Amdanoch chi

Er mwyn rhagori yn y rôl yma bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

- Cefndir Addysgol: Addysg hyd at lefel gradd ac yn meddu ar Ddiploma mewn Safonau Masnach neu gymhwyster a oedd yn ragflaenydd cyfatebol

- Gwybodaeth a phrofiad: Meddu ar ystod eang o brofiad ar ôl cymhwyso, gan gynnwys profiad o reoli ymchwiliadau troseddol cymhleth a dealltwriaeth gynhwysfawr o elfennau technegol y fframweithiau deddfwriaethol perthnasol, polisïau a materion allweddol perthnasol sy’n gysylltiedig â’r rôl hon. Disgwylir i chi hefyd feddu ar brofiad o weithredu fel (neu ddirprwyo yn y rôl yma) Prif Arolygydd Pwysau a Mesurau yn unol â Deddf Pwysau a Mesur 1985

- Sgiliau Cynllunio Strategol: Meddu ar brofiad o arwain newid mewn sefydliad cymhleth gyda’r gallu I arwain ar fentrau arwyddocaol o fewn y gwasanaeth neu’n gorfforaethol ar draws y sefydliad a hynny ar cyd ag ystod o wasanaethau, swyddogion proffesiynol a phartneriaid. Bydd hyn yn cynnwys datblygu polisi, cynllunio corfforaethol / strategol a rheoli newid. Yn sgil y pwysau ariannol sy’n wynebu’r sector cyhoeddus  bydd angen I’r ymgeisydd llwyddiannus fedru nodi arbedion a photensial i greu incwm

O ddydd i ddydd byddwch chi’n:

- gyfrifol am oruchwylio’r gwaith a wneir gan Safonau Masnach a’r gwasanaeth Trwyddedu a sicrhau eu heffeithiolrwydd

- rheoli gwaith gorfodi, cydymffurfio a chynghori’r timau er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn cyflawni eu nodau ac amcanion Corfforaethol

- darparu cyngor, arweiniad ac arbenigedd ar bob lefel i ddefnyddwyr y gwasanaeth gan gynnwys paratoi adroddiadau blynyddol statudol, adroddiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu, Pwyllgorau Craffu, y Cabinet a’r Cyngor a chyflwyno’r adroddiadau hyn lle y bo’n berthnasol

- cynrychioli’r gwasanaethau rheoleiddo hyn mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol a datblygu polisïau a gweithdrefnau sy’n berthnasol I waith y gwasanaethau yn gyffredinol

Beth allwn ni ei gynnig?

Gallwn gynnig ystod o fanteision i chi fel gweithiwr am eich sgiliau a’ch ymrwymiad:

- Cydbwysedd Gwaith – Bywyd: Trefniadau gweithio hyblyg er mwyn eich cynorthwyo i reoli gwaith ac ymrwymiadau personol.

- Gwyliau Blynyddol: Lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol i gefnogi eich lles

- Cynllun Pensiwn: Cynllun cyfraniadau pensiwn cyflogwr sy’n hael 

- Buddion er budd y teulu: Buddion sy’n fwy na’r cyffredin i’ch cefnogi chi a’ch teulu

- Arbedion o ran Ffordd y Fyw: Mynediad i arbedion a gostyngiadau ar dreuliau ffordd o fyw amrywiol.

- Iechyd a Lles: Pecynnau iechyd a lles i hyrwyddo amgylchedd gwaith iach

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106715.pdf]

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi drafodaeth anffurfiol am y rôl yma mae croeso i chi gysylltu â Carwen Evans, Rheolwr Corfforaethol Amddiffyn y Cyhoedd - Carwen.Evans@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Uwch Ymarferydd - Gofal wedi'i Gynllunio (Arbenigedd Oedolion)

£42,839 to £45,091 per year

Ceredigion County Council

Canolfan Rheidol

On-sitePermanentFull time

Gweithiwr Cymdeithasol - Tim Anableddau

£35,412 to £40,777 per year

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-sitePermanentFull time

Gweithiwr Cymdeithasol - Gofal wedi'i Gynllunio (Arbenigedd Oedolion)

£35,412 to £40,777 per year

Ceredigion County Council

Canolfan Rheidol

On-sitePermanentFull time
Browse more jobs