Swyddog Prosiect a Datblygu Busnes
| Company: | Ceredigion County Council |
|---|---|
| Salary: | £35,412 - £37,280 |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Penmorfa, SA46 0PA |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 30 Jul 2026 |
| Closing date: | 19 Aug 2026 |
Summary
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn chwilio am Swyddog Prosiect a Datblygu Busnes i ymuno â’n Gwasanaeth Economi ac Adfywio.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o’r tîm sy’n cyflawni Strategaeth Economaidd Ceredigion 2020–2035, gan helpu pobl, lleoedd a mentrau ledled Ceredigion i ffynnu a thyfu.
Prif ffocws y rôl fydd rheoli a chyflawni rhaglenni Cronfa Twf Lleol a Chronfa Effaith Balchder Bro yng Ngheredigion. Os oes gennych brofiad mewn rheoli prosiectau, datblygu economaidd mewn busnes, twristiaeth, neu mentergarwch cymunedol, gallai hwn fod yn gyfle i chi.
Byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth ysgogi cymunedau a busnesau Ceredigion i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau, arloesi, cydweithio ac ymateb i heriau lleol. Mae’r gwaith yn amrywiol ac yn esblygu, felly rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu meddwl yn greadigol, ymateb yn gadarnhaol i heriau a nodi atebion ymarferol.
Byddwch yn helpu i lunio dyfodol cymunedau ar draws y sir wrth gefnogi uchelgais y Cyngor i greu trefi ffyniannus, canolog i bobl ac ymwrthol. Disgwylir i chi gynnal proffil lleol gweledol, adeiladu perthnasoedd cadarnhaol â phobl leol a chefnogi lleoedd i ddatblygu mewn ffyrdd sy’n diwallu anghenion a dyheadau’r gymuned.
O ddydd i ddydd, byddwch yn:
- Cydlynu, hwyluso a rheoli proseictau Cronfa Twf Lleol a Chronfa Effaith Balchder mewn Lle i gefnogi ac adfywio busnesau, cymunedau a chanol trefi Ceredigion.
- Hwyluso ymgysylltiad, cyfranogiad a mentora gyda nifer o sefydliadau yn y sector cymunedol, cyhoeddus a phreifat i gefnogi datblygiad eu gweithgareddau.
- Gweithio gyda sefydliadau a busnesau lleol i nodi a chael mynediad at gyfleoedd cyllido sy’n diwallu eu hanghenion.
- Datblygu a gweithredu systemau monitro i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cynlluniau cyllido.
Rydym yn chwilio am rywun â:
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, gan gynnwys y gallu i adeiladu perthnasoedd gwaith adeiladol gydag unigolion a sefydliadau yn y sectorau busnes, cymunedol a chyhoeddus.
- Profiad o reoli a chyflwyno prosiectau.
- Y gallu i feddwl yn arloesol ac yn strategol.
- Profiad o weithio mewn partneriaeth a datblygu cyfleoedd cydweithredol.
- Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno addas ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd.
- Brwdfrydedd dros adfywio lleol a gweithgarwch cymunedol.
- Y gallu i weithio’n hyblyg, defnyddio eich menter eich hun a mabwysiadu dull rhagweithiol.
Mae’r swydd hon yn cael ei hariannu drwy Gronfa Twf Lleol Llywodraeth y DU.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, rydym yn cynnig ystod o fanteision i weithwyr, gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniad pensiwn hael. Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fanteision i weithwyr ar gael yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106827.pdf]
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]
Am ragor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â Catrin George ar catrin.george@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.
Related jobs
Cynghorydd Hyfforddiant - Ymgysylltu
£35,412 to £37,280 per year
Ceredigion County Council
On-sitePermanentFull timeCynghorydd Hyfforddiant - Sgiliau Digidol
£35,412 to £37,280 per year, pro rata
Ceredigion County Council
Penmorfa
On-siteContractPart timeCynghorydd Hyfforddiant - Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd)
£35,412 to £37,280 per year, pro rata
Ceredigion County Council
Penmorfa
On-siteContractPart time