This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Athro/Athrawes (Cymraeg) - Ysgol Bro Pedr

Company:Ceredigion County Council
Salary:£33,731 - £51,942
Hours:Part-time
Location:SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:21 Jul 2026
Closing date:19 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Rydym yn awyddus i benodi ymarferydd effeithiol gyda’r ymrwymiad a’r weledigaeth i gyfrannu fel athro/awes yn y maes allweddol hwn yn Ysgol Bro Pedr. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ffynnu a datblygu fel aelod gweithgar o dîm llwyddiannus yr adran Gymraeg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymwys i addysgu Cymraeg i’r amrediad oedran a gallu yn Ysgol Bro Pedr. Rydym yn chwilio am berson egnïol a blaengar i sicrhau fod y maes hwn yn parhau i ffynnu yn Ysgol Bro Pedr, ac i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol yn allgyrsiol.

Cynhelir cyfweliadau ar ddydd Gwener, 4ydd o Fedi 2026.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106805.pdf]

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 x 5 - Ysgol Bro Pedr

from £25,185 per year, pro rata

Ceredigion County Council

On-sitePermanentPart time

Derbynnydd - Ysgol Gyfun Penglais

£26,403 to £27,694 per year

Ceredigion County Council

On-sitePermanentFull time

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gyfun Aberaeron

from £25,185 per year, pro rata

Ceredigion County Council

On-sitePermanentPart time
Browse more jobs