Skip to main content

This is a new service. Help us improve it and give your feedback (opens in new tab).

English |

Arweinydd Clwb ar ol ysgol cylch Ffrindiau Bach yr Eos

Company:Mudiad Meithrin Cyf
Salary:Meets national minimum wage
Hours:Part-time
Location:Aberystwyth, SY23 1SH
Working pattern:On-site
Job type:Contract
Posting date:24 Nov 2026
Closing date:8 Dec 2026
Apply for this job

Summary

Y Mudiad: Rydym yn angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg, a’n nod yw gweld siaradwyr Cymraeg newydd yn ffynnu. Gwnawn hyn trwy ymgyrchu dros ofal ac addysg Gymraeg, cefnogi ein haelodau a chynllunio’n strategol i greu darpariaethau (Cylchoedd a Meithrinfeydd) newydd. Mae’n holl Gylchoedd a'n Meithrinfeydd Dydd yn cynnig gweithgareddau llawn hwyl i tua 22,000 o blant ifanc bob wythnos. Rydym hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda rhieni a gofalwyr er mwyn rhoi cefnogaeth a gwybodaeth iddynt ar ddewis addysg Gymraeg, rhoi’r Gymraeg i’w plant a lle i ddechrau dysgu Cymraeg

Essential requirements

Dyletswyddau’r Swydd: Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Ffrindiau Bach yr Eos am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: Cydweithio i: • Sicrhau rhediad effeithlon y Clwb, gan arwain tîm o staff, i sicrhau rhaglen o weithgareddau dyddiol ac amrywiol ar gyfer anghenion y plant gan ystyried cyfraniad ac ymateb y plant ar yr hyn maen nhw am gyflawni • Sicrhau bod bob plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o’r safon uchaf • Sicrhau bod sylw manwl yn cael ei roi i hylendid y plant a glendid y gweithle ar bob adeg • Sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn gael cymryd rhan yn yr holl weithgareddau • Sicrhau bod yr ystafell a’r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar • Sicrhau cyfleoedd i rieni drafod datblygiad/unrhyw ofidion eu plant • Croesawu rhieni i’r clwb wrth gasglu’r plant ar ddiwedd y sesiwn • Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae dyddiol yn yr awyr agored fydd yn hybu datblygiad corfforol a chymdeithasol plant o’u hamgylchedd • Sicrhau bod y staff yn adrodd i rhieni beth gyflawnwyd gan y plant yn ystod y sesiwn, a’i gyflwyno mewn modd proffesiynol • Arwain y tîm i sicrhau bod pob plentyn yn ddiogel a chysurus. • Annog y plant i wrando ac ymateb yn positif tuag at blant eraill ac yn ystod gweithgareddau gan drafod gyda rhieni os yw ymddygiad plentyn yn peri gofid. • Creu naws ac awyrgylch Cymraeg a Chymreig o fewn y Clwb ar bob adeg a sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd. • Sicrhau bod trefniadau amser bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus sydd yn cynnwys cyfleodd i’r plant i fod yn annibynnol • Sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac yn cwrdd â gofynion iechyd a diogelwch, a’u bod yn cael eu cadw’n daclus ar ddiwedd sesiwn/dydd • Cynnal asesiad risg perthnasol yn rheolaidd • Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r Clwb yn cael eu gweithredu gan bob aelod o staff yn effeithiol ar bob adeg • Mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd Rheolwr Ffrindiau Bach yr Eos a'r Rheolwr Talaith.

Apply for this job

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Showing Disability Confident logo
About Disability Confident
Disability Confident is a government scheme. It encourages employers to recruit and retain disabled people and those with long term health conditions.

Related jobs

Cynorthwy-ydd Achlysurol (Staff banc) Meithrinfa Camau Bach

Meets national minimum wage

Mudiad Meithrin Cyf

Aberystwyth, Cymru

On-siteTemporaryPart time

Cynorthwy-ydd Achlysurol (Staff banc) Meithrinfa Camau Bach

Meets national minimum wage

Mudiad Meithrin Cyf

Aberystwyth, Cymru

On-siteTemporaryPart time

Cynorthwy-ydd Meithrin Ystafell Coch Meithrinfa Camau Bach

Meets national minimum wage

Mudiad Meithrin Cyf

Aberystwyth, Cymru

On-sitePermanentFull time
Browse more jobs