Cynorthwy-ydd Achlysurol (Staff banc) Meithrinfa Camau Bach
| Company: | Mudiad Meithrin Cyf |
|---|---|
| Salary: | Meets national minimum wage |
| Hours: | Part-time |
| Location: | Aberystwyth, SY23 1PD |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Temporary |
| Posting date: | 24 Nov 2026 |
| Closing date: | 8 Dec 2026 |
Summary
Y Mudiad: Ry’n ni’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg, a’n nod yw gweld siaradwyr Cymraeg newydd yn ffynnu. Gwnawn hyn trwy ymgyrchu dros ofal ac addysg Gymraeg, cefnogi ein haelodau a chynllunio’n strategol i greu darpariaethau (Cylchoedd a Meithrinfeydd) newydd. Mae’n holl Gylchoedd a'n Meithrinfeydd Dydd yn cynnig gweithgareddau llawn hwyl i tua 22,000 o blant ifanc bob wythnos. Ry’n ni hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda rhieni a gofalwyr er mwyn rhoi cefnogaeth a gwybodaeth iddynt ar ddewis addysg Gymraeg, rhoi’r Gymraeg i’w plant a lle i ddechrau dysgu Cymraeg
Essential requirements
Dyletswyddau’r Swydd: Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: Dilyn arweiniad yr Arweinydd Ystafell i: • Sicrhau bod pob plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o’r safon uchaf • Dilyn a gweithredu holl weithdrefnau a pholisïau'r Feithrinfa • Sicrhau bod trefniadau bwydo a newid plant yn cael eu gweithredu yn briodol • Sicrhau bod sylw manwl yn cael ei roi at hylendid y plant a glendid y gweithle ar bob adeg • Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i orffwys neu gysgu yn ôl ei anghenion • Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn gan gwrdd â’u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol • Sicrhau bod adnoddau o fewn cyrraedd hwylus, ac yn addas i oedran y plant • Croesawu rhieni i’r Feithrinfa ar bob adeg • Sicrhau fod amseroedd bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i’r plant • Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored fydd yn hybu datblygiad corfforol a chymdeithasol ac yn meithrin ymwybyddiaeth y plant o’u hamgylchedd • Arddangos gwaith y plant • Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon ac fel rhan o’r tîm a sicrhau mewnbwn i drefniadau’r dydd • Cydweithio i weithredu gofynion Dysgu Sylfaen • Sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd a gyflwynir i’r plant o fewn y feithrinfa • Trochi’r plant yn y Gymraeg drwy gydol y dydd. • Disgwylir i bob aelod o staff gyfathrebu’n Gymraeg gyda’u cyd-weithwyr • Cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch ar bob amser • Sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac yn cwrdd â gofynion iechyd a diogelwch, a’u bod yn cael eu cadw’n daclus ar ddiwedd sesiwn/dydd • Gweithredu pob gweithdrefn a pholisi ar bob adeg • Sicrhau bod yr ystafell a’r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar • Parchu a gweithredu polisi Cyfrinachedd y Feithrinfa • Ymddwyn yn broffesiynol ar bob adeg • Mynychu hyfforddiant perthnasol fel bo angen. • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd Rheolwr y feithrinfa a Rheolwr Meithrinfeydd Cymru.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
About Disability Confident
Related jobs
Arweinydd Clwb ar ol ysgol cylch Ffrindiau Bach yr Eos
Meets national minimum wage
Mudiad Meithrin Cyf
Aberystwyth, Ceredigion
On-siteContractPart timeCynorthwy-ydd Achlysurol (Staff banc) Meithrinfa Camau Bach
Meets national minimum wage
Mudiad Meithrin Cyf
Aberystwyth, Cymru
On-siteTemporaryPart timeCynorthwy-ydd Meithrin Ystafell Coch Meithrinfa Camau Bach
Meets national minimum wage
Mudiad Meithrin Cyf
Aberystwyth, Cymru
On-sitePermanentFull time