Cynorthwy-ydd Meithrin Ystafell Enfys Meithrinfa Camau Bach
| Company: | Mudiad Meithrin Cyf |
|---|---|
| Salary: | Meets national minimum wage |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Aberystwyth, SY23 1PD |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 24 Nov 2026 |
| Closing date: | 8 Dec 2026 |
Summary
Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Rydym yn chwilio rywun:
• sy’n garedig, brwdfrydig ac ymroddedig
• sy’n mwynhau gweithio gyda phlant bach
• sydd â natur ofalgar a’r gallu i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol
• sydd eisiau gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, croesawgar a llawn cariad.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Fel Cynorthwyydd Meithrin, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn gofalu am blant Sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Byddwch yn rhan o dîm cyfeillgar, ac yn gyfrifol am gefnogi pob plentyn i ddatblygu, dysgu a chwarae mewn awyrgylch croesawgar, diogel, hwyliog a llawn cariad, lle mae’r Gymraeg yn greiddiol i bopeth a wnawn.
Essential requirements
Eich prif ddyletswyddau: Byddwch yn gweithio gyda’r Rheolwr ac Arweinydd Ystafell i: Gofal ac Addysg: • Cefnogi’r Arweinydd i sicrhau darpariaeth a gwasanaeth o’r safon uchaf drwy ddatblygu gweithgareddau a chyfleusterau i’w botensial llawn • Cefnogi'r Arweinydd/Rheolwr i sicrhau fod pob plentyn a’u teulu’n cael eu trin gyda pharch gan gwrdd ag anghenion cymdeithasol ac emosiynol y plant • Darparu gofal ac addysg o’r radd flaenaf i blant tra yn ein gofal • Cefnogi’r nod o greu naws ac awyrgylch Cymraeg a Chymreig o fewn y ddarpariaeth, gan weithredu’r Dull Trochi • Cyfrannu at gynllunio gwaith a gweithgareddau’r feithrinfa yn y tymor byr a’r tymor hir • Gweithredu egwyddorion a nodau Cwricwlwm i Gymru • Cefnogi’r tîm i fonitro, gwerthuso ac asesu cynnydd a datblygiad pob plentyn • Hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant, gwrthod rhagfarn, a mynd i’r afael â materion yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Cydymffurfiaeth â Safonau: • Cefnogi’r Arweinydd i sicrhau cydymffurfiaeth a chynlluniau Addysg Feithrin a’r Cynnig Gofal Plant • Cydymffurfio â Safonau Gofynnol a Rheoliadau Gofal Plant a Chwarae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) • Dilyn canllawiau, gweithdrefnau a pholisïau y ddarpariaeth • Dilyn gweithdrefnau Diogelu ac Amddiffyn plant ar bob adeg Cyffredinol: • Bod yn broffesiynol a mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen • Ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Bydd disgwyl i staff fynychu hyfforddiant yn achlysurol ar benwythnosau • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd yr Arweinydd/Rheolwr
Proud member of the Disability Confident employer scheme
About Disability Confident
Related jobs
Cynorthwy-ydd Meithrin Ystafell Coch Meithrinfa Camau Bach
Meets national minimum wage
Mudiad Meithrin Cyf
Aberystwyth, Cymru
On-sitePermanentFull timeCynorthwy-ydd Achlysurol (Staff banc) Meithrinfa Camau Bach
Meets national minimum wage
Mudiad Meithrin Cyf
Aberystwyth, Cymru
On-siteTemporaryPart timeCynorthwy-ydd Achlysurol (Staff banc) Meithrinfa Camau Bach
Meets national minimum wage
Mudiad Meithrin Cyf
Aberystwyth, Cymru
On-siteTemporaryPart time