Teacher - Penllwyn and Penrhyncoch Primary Schools
| Company: | Ceredigion County Council |
|---|---|
| Salary: | £33,731 to £51,942 a year, pro rata |
| Hours: | Part-time |
| Location: | SA46 0PA |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Contract |
| Posting date: | 20 Nov 2026 |
| Closing date: | 30 Nov 2026 |
Summary
The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Ffederasiwn Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn.
Dymuna’r Corff Llywodraethu benodi athro/athrawes frwdfrydig ac ymroddgar i ymuno â’n ffederasiwn llwyddiannus a chefnogol o fis Ionawr tan mis Gorffennaf.
Bydd y rôl yn cynnwys addysgu yn Nosbarth Derbyn Ysgol Penrhyn-coch ac mewn un dosbarth arall ar draws y ffederasiwn, gan gefnogi trefniadau sy’n sicrhau amser arweinyddiaeth ar gyfer aelodau’r uwch-dîm rheoli.
Rydym yn chwilio am ymarferydd rhagorol sy’n:
- Meddu ar allu profedig i gyflwyno addysgu a dysgu o safon uchel ar draws yr ystod gynradd.
- Dangos disgwyliadau uchel ar gyfer cyflawniad a lles disgyblion.
- Yn ymrwymedig i gydweithio fel rhan o dîm cryf ar draws y ddau safle ysgol.
- Yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, staff, rhieni a’r gymuned ehangach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Ysbrydoli disgyblion i gyflawni eu gorau mewn amgylchedd meithringar a chynhwysol.
- Cyfrannu at y cwricwlwm ehangach a darpariaeth allgyrsiol y ffederasiwn.
- Cymryd rhan weithredol ym mywyd y ffederasiwn a’i bartneriaethau cymunedol.
Byddai gallu chwarae’r piano neu gyfrannu at fywyd cerddorol yr ysgol yn fantais, ond nid yw’n hanfodol.
Rydym yn cynnig:
- Cymuned ysgol gynnes a chefnogol.
- Disgyblion brwdfrydig ac ymddwyn yn dda.
- Cyfleoedd dysgu proffesiynol eang i gefnogi datblygiad gyrfa.
- Ymrwymiad cryf i les staff a chydweithio.
Mae hon yn gyfle cyffrous i ymuno â ffederasiwn blaengar sy’n ymroddedig i ddarparu profiadau cyfoethog ac ysgogol i bob dysgwr.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106994_v2.pdf]
Cysylltwch â ni
Croesewir unrhyw ymgeisydd i gysylltu â’r Pennaeth, Miss Catryn Lawrence, ar 01970 880277 am ragor o wybodaeth.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.
Related jobs
Teaching Assistant Level 2 - Cenarth Primary School
from £26,016 per year, pro rata
Ceredigion County Council
On-siteContractPart timeReceptionist - Penweddig Comprehensive School
from £26,016 per year, pro rata
Ceredigion County Council
Ysgol Gyfun Penweddig
On-siteContractPart timeTeaching Assistant Level 2 - Llanarth Primary School
from £26,016 per year, pro rata
Ceredigion County Council
On-siteContractPart time