Skip to main content

This is a new service. Help us improve it and give your feedback (opens in new tab).

English |

Teaching Assistant Level 2 - Llanarth Primary School

Company:Ceredigion County Council
Salary:from £26,016 a year, pro rata
Hours:Part-time
Location:SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Contract
Posting date:5 Nov 2026
Closing date:4 Dec 2026
Apply for this job

Summary

The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.

Ydych chi'n angerddol am gefnogi dysgu a datblygiad plant? Mae ysgol Llanarth yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 ymroddedig ac eiddgar i ymuno â'r tîm o Staff am gyfnod o benodol. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2, byddwch yn:

- Darparu cefnogaeth i ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol, gan eu helpu i gael mynediad at ddysgu a meithrin hyder.

- Gweithio gydag athrawon i gyflwyno gwersi a gweithgareddau deniadol.

- Cefnogi datblygiad Cynlluniau Addysg ac Ymddygiad Unigol.

- Hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth ac ymddygiad cadarnhaol.

- Cynorthwyo gyda threfnu ystafell ddosbarth, paratoi adnoddau a gweithgareddau ysgol ehangach.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:

- Yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

- Sydd â phrofiad o weithio gyda phlant neu ofalu amdanynt.

- Yn meddu ar gymwysterau perthnasol (NVQ 3 neu gyfwerth) a sgiliau llythrennedd/rhifedd da.

- Yn gallu defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi dysgu.

- Yn gadarnhaol, yn hyblyg ac yn gallu meithrin perthnasoedd cryf gyda disgyblion, staff a theuluoedd.

- Yn deall pwysigrwydd diogelu, cynhwysiant a gwaith tîm. Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â thîm cefnogol ac ymroddedig, gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â thîm cefnogol ac ymroddedig, gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

Os ydych chi'n angerddol am helpu plant i lwyddo ac eisiau chwarae rhan allweddol yn eu haddysg, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Darganfyddwch fwy am ysgol Llanarth yma: ysgolllanarth.cymru

- Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/TA2%20SDL.pdf]

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mr Steffan Jones ar prif@llanarth.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. 

Sylwch na fydd euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Teaching Assistant Level 2 - Cenarth Primary School

from £26,016 per year, pro rata

Ceredigion County Council

On-siteContractPart time

Receptionist - Penweddig Comprehensive School

from £26,016 per year, pro rata

Ceredigion County Council

Ysgol Gyfun Penweddig

On-siteContractPart time

DPPA/JT/2589761T - Personal Assistant

Meets national minimum wage

Ceredigion County Council Direct Payment Support Service

On-sitePermanentPart time
Browse more jobs