CYNORTHWYYDD CEFNOGI DYSGU
| Company: | eTeach UK Limited |
|---|---|
| Salary: | Graddfa 5 – Band Cyflog 8–12 (pro rata) |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Barry, CF62 5EB |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Contract |
| Posting date: | 18 Nov 2026 |
| Closing date: | 30 Nov 2026 |
Summary
CYNORTHWYYDD CEFNOGI DYSGU32.5 awr yr wythnos | 39 wythnos y flwyddynGraddfa 5 – Band Cyflog 8–12 (pro rata)
Dyddiad dechrau: 4 Ionawr 2027Contract: contract am 2 dymor i ddechrauNifer y disgyblion: 383 (3–11 oed)
Mae Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn chwilio am Gynorthwyydd Cefnogi Dysgu cyfeillgar, gofalgar a brwdfrydig i ymuno â'n tîm yn y Feithrin o fis Ionawr 2027.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno ag ysgol Gymraeg gynnes a chyfeillgar sy'n rhoi hapusrwydd, lles a dysgu pob plentyn wrth galon popeth a wnawn. Rydym yn chwilio am rywun sy'n mwynhau gweithio gyda phlant ifanc, sy'n amyneddgar ac yn ofalgar, ac sy'n awyddus i helpu plant i wneud y gorau o'u profiadau cyntaf yn yr ysgol. Byddwch yn helpu i greu amgylchedd hapus, diogel a chroesawgar lle gall plant chwarae, dysgu, datblygu eu sgiliau a magu hyder. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'n staff i gefnogi'r plant yn eu gweithgareddau a'u helpu i fwynhau eu diwrnod yn yr ysgol. Yn Sant Baruc, rydym yn falch o'n cymuned ysgol ofalgar a'n tîm cefnogol. Byddwch yn cael croeso cynnes ac yn rhan o dîm sy'n gweithio gyda'i gilydd i roi'r dechrau gorau posibl i'n plant.
Mae'n hanfodol eich bod yn gallu siarad, ysgrifennu a chyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg.
Suti wneud caisOs ydych yn mwynhau gweithio gyda phlant ifanc ac yn chwilio am gyfle i fod yn rhan o ysgol gyfeillgar a chefnogol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2026Cyfweliadau: 7 Rhagfyr 2026Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Related jobs
Cynorthwyydd Lles Emosiynol - Yr Hafan
: Graddfa 4 Pwyntiau 6-11
eTeach UK Limited
Tyllgoed, Cardiff
On-sitePermanentPart timeCynorthwyydd Dysgu (Lefel 2 / Gradd 4)
Graddfa Cyflog: Gradd 4 (Pwyntiau 6–11, pro rata)
eTeach UK Limited
Caerdydd, Cardiff
On-siteContractFull timeEssential Skills Tutor (South Wales)
£25,704 to £27,316 per year
Itec Training Solutions Limited
Cardiff
On-sitePermanentFull time