Cynorthwyydd Dysgu (Lefel 2 / Gradd 4)
| Company: | eTeach UK Limited |
|---|---|
| Salary: | Graddfa Cyflog: Gradd 4 (Pwyntiau 6–11, pro rata) |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Caerdydd, CF23 9DT |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Contract |
| Posting date: | 19 Nov 2026 |
| Closing date: | 27 Nov 2026 |
Summary
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolion brwdfrydig i swydd llawn amser yn yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dyma gyfle arbennig i weithio o fewn tîm sydd â’u bryd ar gynorthwyo disgyblion yn eu dysgu ac i wella sgiliau sylfaenol disgyblion mewn sesiynau un i un, mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth.Wrth weithio ym Mro Edern, byddwch yn ymuno â thîm profiadol ac arbeingol sy’n gweithio yn gydlynus i gefnogi ein disgyblion sydd yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn amgylchedd gartrefol o fewn ein cymuned.Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod gydag awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolion dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant a phobl ifanc. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.Byddwn yn darparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.Edrychwn am unigolion fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol.
Related jobs
Cynorthwyydd Lles Emosiynol - Yr Hafan
: Graddfa 4 Pwyntiau 6-11
eTeach UK Limited
Tyllgoed, Cardiff
On-sitePermanentPart timeCynorthwyydd Gofal a Chwarae Plant 2-3 oed
£25,174.50 to £25,954.50 per year
Mudiad Meithrin Cyf
On-sitePermanentFull timeDirprwy Arweinydd Ystafell
£25,564.50 to £26,344.50 per year
Mudiad Meithrin Cyf
On-sitePermanentFull time