REQ007540 - Rheolwr Profiad Ymwelwyr
| Company: | Conwy County Borough Council |
|---|---|
| Salary: | Meets national minimum wage |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Colwyn Bay, LL29 7AZ |
| Working pattern: | Hybrid - 1 day remote |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 17 Nov 2026 |
| Closing date: | 2 Dec 2026 |
Summary
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sydd wedi’i leoli yng nghanol gogledd Cymru ar gyrion Parc Cenedlaethol trawiadol Eryri, yn awdurdod lleol sydd wedi ennill sawl gwobr ac yn gyflogwr rhagorol sy’n byw yn ôl ei weledigaeth o fod yn “Gyngor Blaengar sy’n Creu Cyfleoedd”.
Essential requirements
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sydd wedi’i leoli yng nghanol gogledd Cymru ar gyrion Parc Cenedlaethol trawiadol Eryri, yn awdurdod lleol sydd wedi ennill sawl gwobr ac yn gyflogwr rhagorol sy’n byw yn ôl ei weledigaeth o fod yn “Gyngor Blaengar sy’n Creu Cyfleoedd”. Rydym nawr yn chwilio am Reolwr Profiad Ymwelwyr brwdfrydig, sy’n ymwybodol yn fasnachol, ac yn canolbwyntio ar y cwsmer i arwain a datblygu ein Gwasanaeth Gwybodaeth i Ymwelwyr. Dyma gyfle cyffrous i chwarae rôl allweddol mewn cefnogi economi ymwelwyr Conwy, gan sicrhau bod preswylwyr ac ymwelwyr yn derbyn profiad o’r radd flaenaf, gan helpu i dyfu incwm, datblygu gwasanaethau newydd, a chefnogi uchelgeisiau ehangach y Cyngor mewn perthynas â thwristiaeth a thwf economaidd. Fel Rheolwr Profiad Ymwelwyr, byddwch yn arwain gweithrediad dyddiol y Canolfannau Croeso, rheoli tîm ymroddgar, goruchwylio gweithgarwch manwerthu a masnachol, a nodi ffyrdd arloesol er mwyn gwella sut mae gwybodaeth i ymwelwyr yn cael ei rhannu ar draws y sir. Byddwch yn gyfrifol am reoli a chydlynu Gwasanaeth Gwybodaeth i Ymwelwyr y Cyngor, gan sicrhau darpariaeth gwybodaeth i ymwelwyr a gwasanaeth i gwsmeriaid o safon uchel. Byddwch yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i greu incwm a masnach drwy weithgareddau manwerthu effeithiol, a byddwch yn rhagweithiol wrth nodi cyfleoedd i wella, moderneiddio a datblygu’r gwasanaeth. Bydd y swydd yn cynnwys arwain prosiectau sy’n ymwneud â datblygiad a darpariaeth Gwasanaeth Gwybodaeth i Ymwelwyr a’r cynnig gwybodaeth i ymwelwyr ehangach, gan helpu i sicrhau bod Conwy yn parhau i fod yn gyrchfan croesawgar, wedi’i hysbysu'n dda ar gyfer ymwelwyr. Dyma gyfle unigryw i helpu i siapio sut mae ymwelwyr yn profi Conwy, gan weithio mewn gwasanaeth sy’n cefnogi busnesau a chymunedau lleol, yn ogystal â’r economi ehangach. Os ydych chi’n frwd am dwristiaeth, profiad cwsmer a gwella gwasanaethau, hoffwn glywed gennych.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
About Disability Confident
Related jobs
REQ007515 - Social Worker – Disability Team 0-25
Level 2 - £38,510 - £41,177 per annum (G07) Level 3 - £42,123 - £45,529 per annum (G08)
Conwy County Borough Council
Colwyn Bay, Conwy
On-sitePermanentFull timeREQ007518 - Senior Flood Risk Officer
£46,579 - £49,817 per annum (G09)
Conwy County Borough Council
Colwyn Bay, Conwy
HybridPermanentFull timeREQ007516 - Gweithiwr Gofal Plant Preswyl Lefel 2
Meets national minimum wage
Conwy County Borough Council
Colwyn Bay, Conwy
On-sitePermanentFull time