REQ007516 - Gweithiwr Gofal Plant Preswyl Lefel 2
| Company: | Conwy County Borough Council |
|---|---|
| Salary: | Meets national minimum wage |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Colwyn Bay, LL29 7AZ |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 11 Nov 2026 |
| Closing date: | 25 Nov 2026 |
Summary
Ymunwch â Ni yn Hafan y Wern - Gwneud Gwahaniaeth Go Iawn, Un Dydd ar y Tro
Yn Hafan y Wern, nid ydym yn darparu gofal yn unig – rydym yn creu cartref. Mae ein lleoliad preswyl pwrpasol yng Nghonwy wedi’i gynllunio i fod yn ofod diogel a meithringar, lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u cefnogi.
Rydym yn chwilio am Weithwyr Gofal Plant Preswyl i ymuno â’n tîm. Mae hon yn fwy na swydd; mae’n gyfle i gerdded ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, gan gynnig cefnogaeth gyson, therapiwtig a’u helpu i adeiladu dyfodol gwell.
Byddwch yn helpu i greu amgylchedd strwythuredig a gofalgar, yn meithrin perthnasoedd cryf, ac yn cefnogi plant drwy heriau emosiynol ac ymddygiadol. Gan weithio’n hyblyg ar draws y ddau gartref, byddwch yn rhan o dîm angerddol sy’n rhoi plant wrth galon popeth a wnawn.
Sut i Wneud Cais:
Os ydych yn angerddol am roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, ac yn rhywun sy’n arwain gyda chynhesrwydd, onestrwydd a gwydnwch — byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni pob gofyniad, ond yn teimlo y gallech ddod â rhywbeth arbennig i’r rôl hon, cysylltwch â ni.
Ymunwch â ni yn Hafan y Wern — a helpwch ni i newid bywydau, un dydd ar y tro.
Essential requirements
Rydym yn chwilio am rywun sy’n gynnes, yn wydn ac sydd â gwir angerdd dros gefnogi plant. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad mewn gofal plant preswyl, yn meddu ar (neu’n gweithio tuag at) Diploma Lefel 3 QCF mewn Gofal Preswyl Plant, a bod gennych ddealltwriaeth gadarn o ymarfer sy’n rhoi ystyriaeth i drawma, diogelu, a datblygiad plant. Os ydych yn rhywun sy’n arwain gydag onestrwydd, empathi a phositifrwydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni pob gofyniad ond yn teimlo y gallech ddod â rhywbeth arbennig i’r rôl, cysylltwch â ni.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
About Disability Confident
Related jobs
REQ007524 - Rheolwr Tîm, Pobl Ddiamddiffyn ac Ymgynghorydd Personol
Meets national minimum wage
Conwy County Borough Council
Colwyn Bay, Conwy
HybridPermanentFull timeREQ007517 - Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm / llwytho gwastraff a chasgliadau
Meets national minimum wage
Conwy County Borough Council
Colwyn Bay, Conwy
On-sitePermanentFull time