Cadeirydd Annibynnol – Bwrdd Pensiwn Lleol
| Company: | South Wales Fire and Rescue Service |
|---|---|
| Salary: | £550 to £550 a day |
| Hours: | Part-time |
| Location: | Pontyclun, CF72 8LX |
| Working pattern: | Hybrid - 1 day remote |
| Job type: | Temporary |
| Posting date: | 17 Nov 2026 |
| Closing date: | 11 Dec 2026 |
Summary
Fel Cadeirydd Annibynnol y Bwrdd Pensiwn Lleol, byddwch yn cefnogi'r Comisiynwyr ac Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn y dyfodol (Rheolwr y Cynllun) i sicrhau gweinyddiaeth, llywodraethu a goruchwyliaeth effeithiol Cynllun(iau) Pensiwn y Diffoddwyr Tân. Mae'r rôl yn gyfrifol am hyrwyddo safonau uchel o lywodraethu pensiynau, sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol a gofynion rheoleiddio, a chefnogi'r Awdurdod i gyflawni ei rwymedigaethau o dan oruchwyliaeth y Rheoleiddiwr Pensiynau.
Gan weithio ar y cyd â chynrychiolwyr cyflogwyr ac aelodau'r cynllun, byddwch yn darparu arweinyddiaeth annibynnol i'r Bwrdd Pensiwn Lleol, gan sicrhau bod cyfarfodydd yn effeithiol, yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar bwrpas statudol y Bwrdd. Byddwch yn craffu ar drefniadau gweinyddu a llywodraethu pensiynau, yn goruchwylio meysydd allweddol fel rheoli risg, cydymffurfiaeth a hyfforddiant, ac yn darparu her a chyngor adeiladol i gefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus.
Mae'r rôl yn gofyn am unigolyn sydd â gwybodaeth sylweddol am bensiynau, sgiliau cadeirio a rheoli rhanddeiliaid cryf, a'r gallu i gyfathrebu materion pensiwn cymhleth yn glir ac yn effeithiol. Fel llysgennad dros lywodraethu da, byddwch yn meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol gydag aelodau'r Bwrdd, swyddogion a gweinyddwyr pensiynau, gan sicrhau bod y Bwrdd yn darparu goruchwyliaeth ac atebolrwydd cadarn er budd aelodau'r cynllun a'r Awdurdod.
Essential requirements
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych chi’r rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer penodiad, yn benodol: Profiad • Profiad o weithio yn y diwydiant pensiynau a dealltwriaeth gynhwysfawr o'r gyfraith sy'n ymwneud â phensiynau, gan gynnwys rôl Rheoleiddiwr Pensiynau). Gwybodaeth • Gwybodaeth dda am bensiynau a phrosesau yn y sector cyhoeddus, ynghyd â'r gallu a'r cymhwysedd i ymgymryd â dysgu ychwanegol, yn benodol mewn perthynas â'r Cynllun(iau) Pensiwn i Ddiffoddwyr Tân. • Yn ddelfrydol, dylai'r ymgeisydd fod wedi cwblhau Pecyn Cymorth Gwasanaeth Cyhoeddus ar-lein ar gyfer Rheoleiddiwr Pensiynau, neu allu ymrwymo i wneud hynny o fewn y ddau fis cyntaf ar ôl cael eu penodi. Arweinyddiaeth • Sgiliau arwain profedig gyda'r gallu i gadeirio cyfarfodydd yn effeithiol. • Bod yn arweinydd cryf gyda barn dda a all ddylanwadu ar ganlyniadau mewn modd effeithiol. • Gallu i gynrychioli barn aelodau Cynllun(iau) Pensiwn Diffoddwyr Tân a/neu gyflogwyr i'r Bwrdd Pensiwn Lleol, yn ôl yr angen. Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a dull hyderus o graffu a herio'n adeiladol. • 'Llygad craff' i allu sicrhau bod Cylch Gorchwyl y Bwrdd Pensiwn Lleol yn cael ei gyflawni'n llawn, bod adroddiadau i'r Bwrdd Pensiwn Lleol yn ddigon manwl ac yn cael eu craffu'n briodol. • Gallu drafftio adroddiadau cywir, cryno a hawdd eu deall ar gyfer y Bwrdd Pensiwn Lleol (megis yr Adroddiad Blynyddol) ac adroddiadau i Fwrdd y • Comisiynwyr/Awdurdod Tân ac Achub ac unrhyw Bwyllgor enwebedig mewn perthynas â materion pensiwn sy'n gofyn am benderfyniad gan y Rheolwr Cynllun. • Gallu i sefydlu cydberthnasau gwaith effeithiol gydag aelodau'r Bwrdd Pensiwn Lleol (cynrychiolwyr cyflogwyr ac aelodau'r cynllun), gan gefnogi swyddogion a chyflwynwyr, megis gweinyddwyr Cynlluniau Pensiwn Diffoddwyr Tân. • Bod yn barod i fynegi barn mewn ffordd resymol, gan wrando ar farn eraill hefyd. • Bod yn hyderus i ddilyn y camau gweithredu priodol. Arall • Ymrwymiad personol i safonau uchel o ran p briodoldeb a llywodraethu.
Related jobs
RHEOLWR SEILWAITH DDaTh (TGCh)
£44,253 to £45,529 per year
South Wales Fire and Rescue Service
Pontyclun, Wales
On-sitePermanentFull timePEIRIANNYDD CYFATHREBIADAU DTD (TGCH)
£35,570 to £37,563 per year
South Wales Fire and Rescue Service
Pontyclun, Wales
On-sitePermanentFull timeCynorthwyydd Gofal a Chwarae Plant 2-3 oed
£25,174.50 to £25,954.50 per year
Mudiad Meithrin Cyf
On-sitePermanentFull time