Skip to main content

This is a new service. Help us improve it and give your feedback (opens in new tab).

English |

PEIRIANNYDD CYFATHREBIADAU DTD (TGCH)

Company:South Wales Fire and Rescue Service
Salary:£35,570 to £37,563 a year
Hours:Full-time
Location:Pontyclun, CF72 8LX
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:10 Nov 2026
Closing date:27 Nov 2026
Apply for this job

Summary

Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn: 27ain o Dachwedd 2026 am 12:00, canol dydd

Mae trawsnewid digidol, data a thechnoleg i gyd yn chwarae rhan ganolog yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau gan gynnwys danfon criwiau a chael mynediad at wybodaeth risg hanfodol a rheoli adnoddau a chefnogi swyddogaethau cefn swyddfa. Wrth i ni barhau i foderneiddio, mae trawsnewid digidol yn ein helpu i adeiladu systemau mwy craff a chysylltiedig sy'n gwella ymatebolrwydd, yn gwella gwneud penderfyniadau, ac yn cryfhau diogelwch cymunedol.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, profiadol a rhagweithiol i ymuno â'n Hadran Data Digidol a Thechnoleg (DDaTh) fel Peiriannydd o fewn ein Tîm Cyfathrebu.

Mae hon yn rôl dechnegol amrywiol, ymarferol sy'n cefnogi'r seilwaith hydwyth, diogel a dibynadwy sy'n sail i wasanaethau gweithredol a chorfforaethol hanfodol. Yn unol â disgrifiad y swydd, bydd deiliad y swydd yn darparu cefnogaeth rheng flaen ac ail reng, diagnosteg, cynnal a chadw ac atgyweirio ar draws rhwydweithio a waliau tân, Terfynellau Data Symudol (MDT), teleffoni digidol, offer danfon mewn perthynas â gorchymyn a rheoli ill ddau, a systemau radio digidol ac analog gan gynnwys y rhai cludadwy a’r rhai ar gerbydau. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cefnogi antenâu allanol ac offer cyfathrebu cysylltiedig, cynnal cofnodion asedau cywir, a gweithio gyda chydweithwyr a chontractwyr allanol i gadw gwasanaethau hanfodol yn gweithredu'n effeithiol.

Mae elfen ymarferol sylweddol i’r rôl ac nid yw'n seiliedig ar waith swyddfa yn unig. Gall dyletswyddau gynnwys gweithio ar ac o gwmpas cerbydau'r Gwasanaeth i osod, archwilio, profi, cynnal a chadw neu ailosod offer cyfathrebu a’u danfon; cael mynediad at antenâu ac offer allanol; ac ymgymryd â gwaith yn yr awyr agored ar safleoedd y Gwasanaeth mewn tywydd amrywiol. Felly, dylai ymgeiswyr fod yn hyderus wrth gyflawni gwaith technegol ymarferol mewn amgylcheddau gweithredol, gan ddilyn systemau gwaith diogel a chymryd gofal rhesymol am eu hiechyd a'u diogelwch eu hunain ac eraill. Rydym yn chwilio am rywun â sylfaen dechnegol gadarn, dull systematig o ganfod namau a pharodrwydd i ddatblygu ar draws yr ystod lawn o systemau cyfathrebu DDaTh. Mae'r gallu i gyfathrebu'n glir â chydweithwyr technegol a’r rhai nad ydynt yn dechnegol, dilyn gweithdrefnau a gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm yn hanfodol. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

• Cytundeb: Parhaol

• Gradd: 9

• Cyflog: £35,570 - £37,563 y flwyddyn

• Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos

• Cyfarwyddiaeth: Digidol, Data a Thechnoleg - Gwasanaethau Technegol

• Cyfeirnod Swydd: 503264

• Lleoliad: Pencadlys y Gwasanaeth Tân

Essential requirements

HANFODOL  Tystysgrif HNC/HND neu gymhwyster cyfatebol mewn DTD neu brofiad perthnasol mewn amgylchedd gwasanaeth cymorth.  Profiad mewn amgylchedd Desg Gwasanaeth/cymorth Technoleg.  Gwybodaeth ymarferol am Dechnolegau Microsoft 365 cyfredol.  Dealltwriaeth o Ddatrys Problemau Rhwydwaith: i gynnwys diagnosis o broblemau cysylltedd, gan gynnwys gwybodaeth a phrofiad o weithío gyda Thechnolegau Rhwydwaith (WAN, LAN, Muriau Gwarchod).  Chwaraewr tîm ymroddedig gyda'r gallu i gyfathrebu a gweithio'n effeithiol o fewn amgylchedd tîm.  Y gallu i gyfathrebu ysgrifenedig i ystod eang o gynulleidfaoedd.  Ymrwymiad i ddatblygu eich hun a thimau a'r gallu i wneu hynny er mwyn gwella effeithiolrwydd sefydliadol.  Y gallu i ddeall a chymhwyso gwybodaeth berthnasol i wneud penderfyniadau priodol sy'n adlewyrchu blaenoriaethau a gofynion allweddol. DYMUNOL  Profiad o gynnal a chadw systemau teleffoni digidol.  Y gallu i gefnogi dyfeisiau Microsoft Windows (Terfynellau Data Symudol).  Gwybodaeth am radios digidol ac analog.  Gwybodaeth am gynnal a chadw offer gorchymyn a rheoli danfon.  Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.  Y gallu i signal aerwedd hydrefus a hwydyth mewn sefyllfaoedd heriol iawn.  Y gallu i groesawu a gwerthfawrogi amrywiaeth a dangos dull teg a moesegol ym mhob sefyllfa.  Y gallu i fabwysiadu dull cyfwybodol a rhagweithiol o weithio i gyflawni a chynnal safonau rhagorol. Sylwer: Mae'r rôl hon yn cynnwys teithio aml rhwng safleoedd ledled ardal De Cymru, teithio cyfnodol y tu allan i'r ardal Gwasanaeth, a gwaith ymarferol ar gerbydau ac offer cyfathrebu mewn gweithdai, yn safleoedd y Gwasanaeth ac yn yr awyr agored. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio'n annibynnol.

Apply for this job

Related jobs

RHEOLWR SEILWAITH DDaTh (TGCh)

£44,253 to £45,529 per year

South Wales Fire and Rescue Service

Pontyclun, Wales

On-sitePermanentFull time

SWYDDOG AMLGYFRWNG AC YMGYSYLLTU

£33,673 to £34,911 per year

South Wales Fire and Rescue Service

Pontyclun, Wales

On-sitePermanentFull time

Tiwtoriaid - Niwroamrywiaeth, Iechyd Meddwl, Meithrin Hyder, Cyflogadwyedd

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

HybridContractPart time
Browse more jobs