Skip to main content

This is a new service. Help us improve it and give your feedback (opens in new tab).

English |

REQ007517 - Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm / llwytho gwastraff a chasgliadau

Company:Conwy County Borough Council
Salary:Meets national minimum wage
Hours:Full-time
Location:Colwyn Bay, LL29 7AZ
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:11 Nov 2026
Closing date:25 Nov 2026
Apply for this job

Summary

Rydym yn chwilio am Yrrwr/Llwythwr LGV ymroddedig a dibynadwy i ymuno â’n tîm Casglu Ailgylchu a Gwastraff. Mae hon yn rôl amrywiol ac ymarferol lle byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaeth rheng flaen hanfodol sy’n helpu i gadw ein cymunedau’n lân ac yn cefnogi ein hymrwymiadau amgylcheddol.

Gan adrodd i’ch Goruchwyliwr, byddwch yn gyfrifol am gwblhau rowndiau dynodedig ar gyfer ailgylchu, gwastraff cartref neu wastraff masnachol yn ddiogel ac yn effeithlon. Mae’n rôl egnïol sy’n eich cadw ar symud trwy gydol y dydd, felly gallwch fwynhau’r fantais ychwanegol o gyfrif camau dyddiol iach wrth i chi weithio!

Mae gyrwyr yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaethau casglu ailgylchu a gwastraff o ansawdd uchel, gan sicrhau bod deunyddiau’n cael eu casglu i’r safon ofynnol a bod rowndiau’n cael eu cwblhau’n effeithiol. Byddwch yn ymfalchïo mewn cynnal safonau gwasanaeth rhagorol, gofalu am eich cerbyd a darparu profiad cadarnhaol i gwsmeriaid.

Beth rydym yn ei gynnig

• 26 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â chynllun pensiwn hael

• Rota gwaith strwythuredig, gyda dim ond 3 diwrnod dal i fyny ar ddyddiau Sadwrn dros gyfnod y Nadolig, gan sicrhau bod gennych Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan yn rhydd i dreulio amser gyda ffrindiau a theulu

• Hyfforddiant parhaus ac aelodaeth Ffit Conwy am bris gostyngol

• Y cyfle i weithio ar draws amrywiaeth o ganolfannau a gweithredu amrywiaeth o gerbydau casglu ailgylchu a gwastraff

Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm cefnogol sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol. Bob dydd, byddwch yn chwarae rhan uniongyrchol wrth gadw cymunedau Conwy’n lân, cefnogi ymdrechion ailgylchu a chyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy. Nid oes dau ddiwrnod yr un fath.

Essential requirements

Os oes gennych sgiliau rhyngbersonol cryf, agwedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac os ydych yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm, gallai hon fod yn rôl i chi. Byddwch yn gallu gwneud gwaith corfforol rheolaidd ym mhob tywydd ac yn gallu gweithio 37 awr yr wythnos gydag oriau ychwanegol achlysurol pan fo angen. Beth fydd ei angen arnoch • Trwydded yrru LGV (Categori C) gyfredol • Cerdyn CPC Gyrrwr dilys

Apply for this job

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Showing Disability Confident logo
About Disability Confident
Disability Confident is a government scheme. It encourages employers to recruit and retain disabled people and those with long term health conditions.

Related jobs

Llwythwr Ysbwriel ac Ailgylchu / Recycling Refuse Loader

Meets national minimum wage

Conwy County Borough Council

Field-basedPermanentFull time

Team Manager

Meets national minimum wage

Conwy County Borough Council

HybridPermanentFull time

REQ007516 - Gweithiwr Gofal Plant Preswyl Lefel 2

Meets national minimum wage

Conwy County Borough Council

Colwyn Bay, Conwy

On-sitePermanentFull time
Browse more jobs