Skip to main content

This is a new service. Help us improve it and give your feedback (opens in new tab).

English |

Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol – Cylch Meithrin Dechrau’n Deg Gwdihŵ (cyfnod mamolaeth)

Company:Mudiad Meithrin Cyf
Salary:from £13.11 an hour
Hours:Part-time
Location:Brynithel, NP13 2GZ
Working pattern:On-site
Job type:Contract
Posting date:11 Nov 2026
Closing date:25 Nov 2026
Apply for this job

Summary

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr/Arweinydd y cylch ac yn gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

· Cynnig cymorth a chefnogaeth briodol er mwyn sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael yr un cyfleoedd a’i gyfoedion i fwynhau ac elwa o weithgareddau’r Cylch

· Sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael ei gynnwys yn llawn ym mhob agwedd o waith y Cylch, gan addasu’r adnoddau a’r gweithgareddau lle bo angen

· Cynorthwyo’r Arweinydd i lunio rhaglen o weithgareddau amrywiol a fydd yn ateb anghenion y plentyn, ac yn sicrhau ei fod yn datblygu i’w lawn botensial tra yn y Cylch Meithrin

· Cydweithio â’r Arweinydd a’r rhieni er mwyn llunio Cynllun Addysg Unigol/Cynllun Chwarae Addysg ar gyfer plentyn ag anghenion ychwanegol yn y Cylch

· Cydweithio â’r Arweinydd er mwyn sicrhau bod offer, dodrefn ac adnoddau addas ar gael a fydd yn galluogi’r plentyn i gymryd rhan yn holl weithgareddau’r Cylch

· Derbyn cyngor a chyfarwyddyd gan Gysylltydd y Cynllun Cyfeirio ac arbenigwyr sy’n ymwneud â’r plentyn, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a gynigir yn y Cylch yn addas ar gyfer anghenion penodol y plentyn

· Cynorthwyo’r Arweinydd i gadw cofnod manwl o ddatblygiad y plentyn

· Cydweithio â’r Arweinydd er mwyn sicrhau bod y rhieni/gwarcheidwaid yn cael cyfle i drafod datblygiad eu plentyn.

· Dilyn holl bolisïau a gweithdrefnau’r cylch.

· Sicrhau bod trefniadau amser bwyd/snac yn cael eu gweithredu yn briodol.

· Sicrhau bod amserau bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i’r plant.

· Defnyddio’r dull Trochi gan sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd.

· Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored.

· Arddangos gwaith y plant.

· Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon fel rhan o’r tîm a sicrhau mewnbwn i drefniadau’r dydd.

· Cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn ôl yr angen a rhieni.

· Cydymffurfio a safonau Gofynnol a Rheoliadau AGC.

· Dilyn gweithdrefnau Hylendid ac Iechyd a Diogelwch.

· Sicrhau bod yr offer ac adnoddau yn ddiogel ac yn addas at ystod oedran.

· Sicrhau bod yr ystafell a’r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar.

· Mynychu hyfforddiant perthnasol fel bo angen.

· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr/Arweinydd a’r Dirprwy Rheolwr Talaith.

Essential requirements

Gwybodaeth / Cymwysterau Hanfodol Cymhwyster proffesiynol priodol mewn blynyddoedd cynnar / gofal plant ar o leiaf lefel 3 Dealltwriaeth o’r mathau o ffactorau sy’n effeithio ar fywydau plant a’u teuluoedd Gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu a datblygu Gwybodaeth am reoliadau perthnasol a chyfredol Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu o’r raddfa uchaf er mwyn gallu gweithio gyda phlant a’u teuluoedd mewn modd sensitif, cadarnhaol a heb ragfarn Gweithio yn gadarnhaol fel rhan o dîm Gyfathrebu yn effeithiol ar lafar yn y Gymraeg a’r Saesneg Gyfathrebu yn effeithiol yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg Profiad diweddar o ddarparu addysg a gofal blynyddoedd cynnar o ansawdd Profiad o weithio mewn partneriaeth â rhieni / gofalwyr er mwyn cefnogi datblygiad plant Gwybodaeth / Cymwysterau Dymunol Gwybodaeth am fenter Dechrau’n Deg Gwybodaeth am Cwricwlwm i Gymru / Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

Apply for this job

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Showing Disability Confident logo
About Disability Confident
Disability Confident is a government scheme. It encourages employers to recruit and retain disabled people and those with long term health conditions.

Related jobs

Arweinydd Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw

from £14.81 per hour

Mudiad Meithrin Cyf

Brynithel, Blaenau Gwent

On-sitePermanentPart time

Cynorthwyydd Achlysurol Cylch Meithrin Gwdihw, Brynithel

from £12.71 per hour

Mudiad Meithrin Cyf

Brynithel

On-siteTemporaryPart time

Teaching Assistant (121 Support) (Blackwood)

from £24,480 per year

Itec Training Solutions Limited

On-sitePermanentFull time
Browse more jobs