Arweinydd Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw
| Company: | Mudiad Meithrin Cyf |
|---|---|
| Salary: | from £14.81 an hour |
| Hours: | Part-time |
| Location: | Brynithel, NP13 2JZ |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 9 Nov 2026 |
| Closing date: | 25 Nov 2026 |
Summary
Rydym yn chwilio am arweinydd brwdfrydig ac ymroddedig i arwain ein cylch Cymraeg a sicrhau'r safonau uchaf o ofal, dysgu a chwarae i blant bach.
Rydym yn edrych am rywun:
sy’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant drwy gyfrwng y Gymraeg
sydd â’r gallu i arwain, ysbrydoli a chefnogi tîm o staff
sy’n gallu sicrhau gwasanaeth o safon uchel sy’n ddiogel, cynhwysol a chroesawgar
sy’n meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol ac yn gallu adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, teuluoedd a phartneriaid
sy’n ymrwymedig i ddatblygu’r Gymraeg, hyrwyddo dysgu drwy chwarae a chreu profiadau cyfoethog i bob plentyn
sy’n gallu sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddiol a diogelu, gan arwain drwy esiampl
Essential requirements
Dyletswyddau’r Swydd: Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Dirprwy Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol. • Cymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod y cylch yn darparu'r gwasanaeth o'r safon uchaf drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ddatblygu'r gweithgareddau a'r cyfleusterau i'w llawn botensial. • Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'r cylch yn cael eu gweithredu'n effeithiol bob amser. • Sefydlu a gweithredu systemau monitro a gwerthuso ansawdd y gwasanaeth. • Cynorthwyo tîm cyllid Mudiad Meithrin gydag anfonebu misol • Mynychu cyfarfodydd gyda'r Dirprwy Reolwr Taleithiol yn ôl yr angen. • Mynychu hyfforddiant perthnasol yn ôl yr angen. • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd fel y cyfarwyddwyd gan y Mudiad. Gofynion Rheoleiddio a Diogelu • Gweithredu'r polisi a'r gweithdrefnau diogelu plant. • Cymryd cyfrifoldeb am bob agwedd ar ddiogelu plant, gweithio gydag asiantaethau statudol, a mynychu cynadleddau achos yn ôl yr angen. • Sicrhau bod y cylch yn cydymffurfio â Safonau Gofynnol Cenedlaethol a Rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru. • Sicrhau bod y lleoliad yn bodloni'r holl rwymedigaethau statudol ynghylch y Cod Ymarfer ADY, gan ddilyn canllawiau lleol, mynychu cyfarfodydd a chwblhau gwaith papur perthnasol yn ôl yr angen. • Gweithredu o fewn gofynion cynlluniau sirol fel Estyn, Dechrau'n Deg ac EAS. • Fel darparwr Dechrau'n Deg, cydymffurfio â'r holl ofynion Dechrau'n Deg gan gynnwys paratoi adroddiadau, mynychu cyfarfodydd, digwyddiadau ac unrhyw hyfforddiant perthnasol. Plant, Teuluoedd ac Ymgysylltu â'r Gymuned • Sicrhau bod pob plentyn a rhiant yn cael eu croesawu a'u trin gyda pharch a diwallu eu hanghenion cymdeithasol ac emosiynol, gan sicrhau cyfathrebu parhaus. • Sicrhau darpariaeth ddigonol o adnoddau amrywiol sy'n briodol i oedran y plant, er mwyn hyrwyddo datblygiad. • Cynnal cysylltiadau â'r ysgol Gymraeg leol i hyrwyddo pontio. • Bod yn brif gyswllt i weithwyr proffesiynol, gan gynnwys Swyddogion Dechrau'n Deg, Gweithwyr Cymdeithasol, Ymwelwyr Iechyd, Therapyddion Lleferydd ac ati, a darparwyr eraill yn y gymuned leol. Cwricwlwm, Dysgu a Datblygiad Plant • Cyflwyno'r dull Trochi gan sicrhau mai'r Gymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd. • Arwain y gwaith o ddatblygu Cwricwlwm i Gymru / Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariannir nas cynhelir. • Sefydlu a gweithredu system effeithiol o arsylwi, cynllunio a monitro plant. • Sicrhau bod gweithgareddau chwarae awyr agored yn cael eu darparu. Staffio a Rheoli'r Gweithlu • Trefnu rota staffio dyddiol/wythnosol gan gadw at gymarebau Arolygiaeth Gofal Cymru. • Sicrhau bod arfer gorau yn cael ei weithredu gan staff. • Sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg/mewn ffordd gynhwysol. • Ymateb i unrhyw ymholiadau ac anghenion staff. • Cynnal cyfarfodydd staff rheolaidd gan gynnwys goruchwyliaethau ac arfarniadau blynyddol. • Monitro a sicrhau bod hyfforddiant gorfodol yn gyfredol. • Annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) drwy drefnu rhaglen o hyfforddiant rheolaidd mewn partneriaeth â'r Dirprwy Reolwr Rhanbarthol. • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd y Mudiad Hanfodol: Cymhwyster proffesiynol priodol mewn blynyddoedd cynnar / gofal plant ar o leiaf lefel 3 Dymunol: Cymhwyster proffesiynol priodol mewn blynyddoedd cynnar / gofal plant ar o leiaf lefel 5
Proud member of the Disability Confident employer scheme
About Disability Confident
Related jobs
Cynorthwyydd Achlysurol Cylch Meithrin Gwdihw, Brynithel
from £12.71 per hour
Mudiad Meithrin Cyf
Brynithel
On-siteTemporaryPart timeGweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol – Cylch Meithrin Dechrau’n Deg Gwdihŵ (cyfnod mamolaeth)
from £13.11 per hour
Mudiad Meithrin Cyf
Brynithel
On-siteContractPart timePersonal Assistant Social Care Tunbridge Wells
from £22.30 per hour
Direct Payments
RemotePermanentPart time