Skip to main content

This is a new service. Help us improve it and give your feedback (opens in new tab).

English |

Tiwtoriaid - Niwroamrywiaeth, Iechyd Meddwl, Meithrin Hyder, Cyflogadwyedd

Company:Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Salary:£32 to £32 an hour
Hours:Part-time
Location:Bridgend
Working pattern:Hybrid - 4 days remote
Job type:Contract
Posting date:17 Nov 2026
Closing date:2 Dec 2026
Apply for this job

Summary

Tiwtoriaid

Niwroamrywiaeth, Iechyd Meddwl, Meithrin Hyder, Cyflogadwyedd

Pen-y-bont ar Ogwr

Raddfa tâl: £32 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)

Yn ogystal â a phecyn buddion hael

Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid cymwys a medrus i gyflwyno cyrsiau Niwroamrywiaeth, Iechyd Meddwl, Meithrin Hyder, Cyflogadwyedd i ddysgwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, er mwyn cefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.

Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

• Cynllunio a pharatoi cyrsiau – paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.

• Cefnogi dysgwyr – Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’u llwybrau dilyniant.

• Cyffredinol – ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Ymgeisiwch erbyn 12.00pm Dydd Mercher 2il Rhagfyr 2026 gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Proses Dethol a Recriwtio

Cyfweliadau yn cael eu cynnal wythnos cychwyn 7fed Rhagfyr. Os na allwch fynychu ar y dyddiad hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi hyn ar eich cais ac yn cadarnhau eich argaeledd.

Fel rhan o'r broses gyfweld gofynnir i chi gyflwyno sesiwn meicroaddysgu 15 munud, a darparu cynllun gwers, cynllun gwaith, ac unrhyw adnoddau ar gyfer y sesiwn hon.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg.

Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.

Os oes angen i chi gyflwyno'ch cais mewn dull arall, mae croeso i chi gysylltu gyda ni.

Essential requirements

Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Apply for this job

Related jobs

Retentions Advisor

£25,506 to £25,506 per year

Manpower UK Limited

Oxford, Oxfordshire

RemotePermanentFull time

Associate Therapist - Fostering

£20 to £30 per hour

FCA

Cardiff, Cardiff

RemotePermanentFull time

Personal Assistant Social Care Tunbridge Wells

from £22.30 per hour

Direct Payments

RemotePermanentPart time
Browse more jobs