Skip to main content

This is a new service. Help us improve it and give your feedback (opens in new tab).

English |

Swyddog Cymorth Cudd-wybodaeth - Desg Gudd-wybodaeth Fyw

Company:Dyfed-Powys Police
Salary:£27,747 to £29,649 a year
Hours:Full-time
Location:Carmarthen, SA31 2PF
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:30 Oct 2026
Closing date:11 Nov 2026
Apply for this job

Summary

Heddlu Heddlu Dyfed Powys

Math o rôl Staff Heddlu

Maes Busnes / Adran Yr Adran Ymchwiliadau Troseddol

Lleoliad Pencadlys

Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Sefydlog a Gweithredol

Gradd D

Cyflog £27,747 - £29,649

Lwfansau Sifft, Gweithio Penwythnos

Canran Sifft 20%

Canran Sifft Gweithio Penwythnosau 20%

Rhan/Llawn Amser Llawn Amser

Oriau'r Wythnos 37

Math o Gytundeb Parhaol

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1

Dyddiad Cyfweliad 30 Tachwedd 2026

Dyddiad cau 11/11/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Cymorth Cudd-wybodaeth - Desg Gudd-wybodaeth Fyw yn Swyddfa Gudd-wybodaeth yr Heddlu (CID) .

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Darparu cymorth cudd-wybodaeth ar gyfer digwyddiadau argyfyngus a digwyddiadau arfau saethu digymell yn ôl cyfarwyddyd.

Darparu cudd-wybodaeth amser byw i staff gweithredol a anfonir i leoliadau digwyddiadau.

Rheoli derbyn ac ymchwilio i geisiadau cudd-wybodaeth wrth heddluoedd eraill, gan ddefnyddio’r holl gronfeydd data perthnasol, i gasglu a gwerthuso cudd-wybodaeth a ganfyddir am bobl benodol, gan ddilysu cofnodion pan fod angen.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus

24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)

Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle

Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)

Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi

Cynllun pensiwn

Rhwydweithiau Cymorth Staff

Cyfleoedd gweithio hyblyg

Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Essential requirements

1. Rhaid bod â’r gallu i ymchwilio i gronfeydd data a chynhyrchu crynodebau o ddata cymhleth sydd wedi’u hysgrifennu’n dda mewn modd amserol. (H) 2. Rhaid bod yn barod i weithio mewn amgylchedd lle mae cyfrinachedd a chywirdeb o ran ymdrin â data’n hollbwysig. (H) 3. Rhaid bod gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn medru cyfathrebu â phobl ar bob lefel o'r sefydliad. (H) 4. Rhaid arddangos ymagwedd ymarferol tuag at ddatrys problemau. (H) 5. Rhaid dangos eich bod chi’n medru gweithio i lefel uchel o gywirdeb a thalu sylw i fanylion. (H)

Apply for this job

Related jobs

Arbenigwr TGCh

£32,613 to £41,487 per year

Dyfed-Powys Police

Carmarthen

HybridPermanentFull time

Cymorth Cyflwyniadau Fforensig

from £25,950 per year

Dyfed-Powys Police

Carmarthen

On-sitePermanentFull time

Cymorth Pobl a DS (Adnoddau Dynol)

£25,950 to £27,204 per year

Dyfed-Powys Police

Carmarthen

HybridPermanentFull time
Browse more jobs