Arbenigwr TGCh
| Company: | Dyfed-Powys Police |
|---|---|
| Salary: | £32,613 to £41,487 a year |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Carmarthen, SA31 2PF |
| Working pattern: | Hybrid - 2 days remote |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 26 Oct 2026 |
| Closing date: | 5 Nov 2026 |
Summary
Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran TGCH
Lleoliad Caerfyrddin, Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg
Gradd E/F
Cyflog £32,613- £41,487
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 18 Tachwedd 2026
Dyddiad cau 05/11/26 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Arbenigwr TGCh yn yr Adran TGCh.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Tasgau sy’n Benodol ar gyfer y Rôl
1. Ffurfweddi, gosod a chynnal caledwaith cyfrifiadurol a rhwydwaith yn unol â phrosesau a gweithdrefnau rheoli rhyddhau a newid yr adran TGCh.
2. Darparu datrysiadau arbenigol a chreadigol i broblemau defnyddwyr er mwyn sicrhau bodlonrwydd defnyddwyr a chynhyrchedd.
3. Ymchwilio, datrys ac ymateb i gwestiynau cymhleth a dderbynnir drwy alwadau ffôn, galwadau yn ôl, neu waethygiadau a darparu cymorth ar wasanaethau electronig, yn unol â’r safonau cyfredol.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.
https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf
Beth allwch chi ddisgwyl?
Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Cynhelir cyfweliadau: 18fed a 19eg o Dachwedd
Amrywiaeth a’r Gymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.
Essential requirements
1. Rhaid bod a phrofiad blaenorol o ddarparu cymorth a chyflenwi gwasanaeth TG. (H) 2. Rhaid bod gennych wybodaeth ymarferol a phrofiad o systemau gweithredu pen desg Windows a Gweinydd Microsoft Windows (H) 3. Rhaid eich bod chi’n medru rheoli llwyth gwaith a chydbwyso blaenoriaethau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, gan ail-gyfarwyddo adnoddau’n gyflym ac effeithiol er mwyn bodloni gofynion newidiol. (H) 4. Rhaid bod gennych wybodaeth ymarferol a phrofiad o seiberddiogelwch TGCh, gan gynnwys unioni gwendidau, clytio a seiberymwybyddiaeth cyffredinol. (H) 5. Rhaid meddu ar gymhwyster lefel gradd neu gyfwerth mewn maes sy’n ymwneud â chyfrifiaduron, neu feddu ar brofiad cyfwerth o fewn amgylchedd cymorth a chyflenwi gwasanaethau TG sy’n dwyn y daliwr swydd i lefel gymharol. (H)
Related jobs
Cymorth Pobl a DS (Adnoddau Dynol)
£25,950 to £27,204 per year
Dyfed-Powys Police
Carmarthen
HybridPermanentFull timeSwyddog Cymorth Cudd-wybodaeth - Desg Gudd-wybodaeth Fyw
£27,747 to £29,649 per year
Dyfed-Powys Police
Carmarthen
On-sitePermanentFull timeCymorth Cyflwyniadau Fforensig
from £25,950 per year
Dyfed-Powys Police
Carmarthen
On-sitePermanentFull time