Cymorth Pobl a DS (Adnoddau Dynol)
| Company: | Dyfed-Powys Police |
|---|---|
| Salary: | £25,950 to £27,204 a year |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Carmarthen, SA31 2PF |
| Working pattern: | Hybrid - 2 days remote |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 26 Oct 2026 |
| Closing date: | 4 Nov 2026 |
Summary
Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Datblygu Sefydliadol a Phobl
Lleoliad Caerfyrddin, Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg
Gradd C
Cyflog £25,950 - £27,204
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 3
Dyddiad Cyfweliad 19 Tachwedd 2026
Dyddiad cau 04/11/26 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Ydych chi’n chwilio am swydd newydd o fewn adran Adnoddau Dynol?
Ydych chi’n frwd dros ddarparu gwasanaeth effeithlon ac amserol i gwsmeriaid mewnol ac allanol?
Ydych chi eisiau ennill cymhwyster Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ffurfiol?
Yna efallai mai chi fydd Swyddog Cymorth Datblygu Pobl a’r Sefydliad (Adnoddau Dynol) nesaf Heddlu Dyfed-Powys.
Ry’n ni’n chwilio am rywun sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da ac sy’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg hyd safon lefel 3.
Yn y swydd hon, byddwch chi’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gweinyddol Adnoddau Dynol ar bob mater sy’n ymwneud â phobl, gan gynnwys recriwtio, dethol a dyrchafu. Byddwch chi’n datblygu gwybodaeth am feysydd allweddol megis deddfwriaeth Cyflogaeth, Rheoliadau’r Heddlu ac Amodau Gwasanaeth Staff yr Heddlu. Ry’n ni’n cynnig rhaglen hyfforddi lawn, gan gynnwys eich cofrestru i gwblhau cymhwyster Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ffurfiol.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.
https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf
Beth allwch chi ddisgwyl?
Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Cynhelir cyfweliadau: 03/09/2026
Amrywiaeth a’r Gymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.
Essential requirements
1. Rhaid meddu ar gymhwyster CIPD Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol, neu fod yn fodlon cyflawni hyn yn llwyddiannus o fewn 12 mis i’r penodiad (H) 2. Rhaid meddu ar T.G.A.U. Graddau A - C, mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg, neu fod yn gallu profi profiad perthnasol i safon gymharol mewn rhifedd a llythrennedd (H) 3. Rhaid bod yn hyddysg yn y defnydd o Microsoft Word ar gyfer prosesu geiriau ac Excel ar gyfer trin data ac adrodd (H) 4. Rhaid bod â’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg hyd Lefel 3 5. Rhaid meddu ar brofiad blaenorol o ddarparu safonau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid mewnol ac allanol (H)
Related jobs
Swyddog Cymorth Cudd-wybodaeth - Desg Gudd-wybodaeth Fyw
£27,747 to £29,649 per year
Dyfed-Powys Police
Carmarthen
On-sitePermanentFull timeCymorth Cyflwyniadau Fforensig
from £25,950 per year
Dyfed-Powys Police
Carmarthen
On-sitePermanentFull time