Technegydd Fflyd (Caerfyrddin)
| Company: | Dyfed-Powys Police |
|---|---|
| Salary: | £32,613 to £35,772 a year |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Carmarthen, SA31 2PF |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 24 Sept 2026 |
| Closing date: | 7 Oct 2026 |
Summary
Heddlu
Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl
Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran
Fflyd
Lleoliad
Caerfyrddin, Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol
Sefydlog
Gradd
E
Cyflog
£32,613-£35,772
Rhan/Llawn Amser
Llawn Amser
Oriau'r Wythnos
37
Math o Gytundeb
Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
1
Dyddiad Cyfweliad
22 Hydref 2026
Dyddiad cau
07/10/26 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Technegydd Fflyd (Caerfyrddin) yn yr Adran Gwasanaethau Fflyd.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Gwasanaethu, atgyweirio, gwneud diagnosis a chomisiynu cerbydau Fflyd mewn modd effeithiol ac amserol, gan gefnogi plismona gweithredol a gofynion adrannol.
Tasgau sy’n Benodol i’r Rôl
1. Gwasanaethu ac atgyweirio cerbydau’r heddlu i fodloni safonau MOT a Heddlu Dyfed-Powys. Mae hyn yn golygu gweithredu gweithdrefnau cynnal ymarferol a defnyddio offer diagnostig arbenigol i sicrhau bod cerbydau’n hawdd i’w gweithredu yn yr amgylchedd blismona.
2. Deall a gweithredu polisïau fflyd perthnasol a rheoliadau diogelwch tra’n cynnal gwybodaeth dechnegol ddiweddar drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.
3. Gosod a chynnal systemau cerbydau heddlu arbenigol, megis goleuadau glas, offer cyfathrebu ac offer gweithredol.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.
https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-cv-welsh.pdf
Beth allwch chi ddisgwyl?
Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Amrywiaeth a’r Gymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.
Related jobs
Rheolwr Technoleg Adeiladu a Phrosiectau
£43,668 to £47,046 per year
Dyfed-Powys Police
Carmarthen
HybridPermanentFull timeSwyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCH) - 2027/28
£28,914 to £30,897 per year
Dyfed-Powys Police
Carmarthen
On-sitePermanentFull time