Skip to main content

This is a new service. Help us improve it and give your feedback (opens in new tab).

English |

Rheolwr Technoleg Adeiladu a Phrosiectau

Company:Dyfed-Powys Police
Salary:£43,668 to £47,046 a year
Hours:Full-time
Location:Carmarthen, SA31 2PF
Working pattern:Hybrid - 2 days remote
Job type:Permanent
Posting date:24 Sept 2026
Closing date:6 Oct 2026
Apply for this job

Summary

Heddlu Heddlu Dyfed Powys

Math o rôl Staff Heddlu

Maes Busnes / Adran Stadau

Lleoliad Caerfyrddin, Pencadlys

Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg

Gradd G

Cyflog £43,668-£47,046

Lwfansau Sifft

Canran Sifft 12.5%

Rhan/Llawn Amser Llawn Amser

Oriau'r Wythnos 37

Math o Gytundeb Parhaol

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1

Dyddiad cau 06/10/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Rheolwr Technoleg Adeiladu a Phrosiectau yn yr Adran Ystadau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Darparu effeithlonrwydd adeiladu tactegol trwy ddefnyddio ychwanegiadau i systemau mecanyddol a thrydanol, systemau rheoli cyfleusterau gyda chymorth cyfrifiadur (CAFM) a gwasanaethau rheoli a chydlynu prosiectau effeithiol er mwyn sicrhau y cyflawnir y cynllun cyfalaf. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio gydag ymgynghorwyr/cyflenwyr allanol a thimau mewnol, i gyflawni amrywiaeth o brosiectau penodol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn dirprwyo rôl y Rheolwr Prosiect, yn ôl yr angen.

Penodol i’r rôl

1. Cysylltu â thîm cymorth Ystadau a swyddogaethau cymorth ehangach, gan gynnwys y tîm rheoli cyfleusterau a chyllid i gydlynu, cynllunio a chyflawni atebion cydymffurfiol a chynlluniau gwella adeiladau, gan ddefnyddio data systemau rheoli adeiladau/ystadau a briffiau cleientiaid yn ôl yr angen. Cyflawnir hyn drwy baratoi achosion busnes safonol a fydd yn cynnwys dadansoddiad cost a budd i’w cymeradwyo gan y bwrdd ystadau yn ôl yr angen.

2. Sefydlu cyllidebau prosiectau unigol o fewn +/- 10%.

3. Cyflawni dyletswyddau rôl clerc gwaith, gan ddarparu adolygiadau ansawdd o waith prosiect, a gwblhawyd yn ystod ac ar ôl ei gwblhau, gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r fanyleb a’r safonau ansawdd a ddiffinnir ym manylebau’r tendr.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus

24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)

Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle

Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)

Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi

Cynllun pensiwn

Rhwydweithiau Cymorth Staff

Cyfleoedd gweithio hyblyg

Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Cynhelir cyfweliadau: I'w gadarnhau

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Apply for this job

Related jobs

Technegydd Fflyd (Caerfyrddin)

£32,613 to £35,772 per year

Dyfed-Powys Police

Carmarthen

On-sitePermanentFull time

Derbynnydd (12 mis)

£25,950 to £27,204 per year

Dyfed-Powys Police

Carmarthen

On-siteTemporaryFull time

Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCH) - 2027/28

£28,914 to £30,897 per year

Dyfed-Powys Police

Carmarthen

On-sitePermanentFull time
Browse more jobs