Skip to main content

This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Swyddog Marchnata a Chyfryngau Cymdeithasol

Company:Mudiad Meithrin Cyf
Salary:£25,175 to £28,531 a year
Hours:Full-time
Location:Aberystwyth, SY23 1PD
Working pattern:Hybrid - 3 days remote
Job type:Permanent
Posting date:23 Sept 2026
Closing date:12 Oct 2026
Apply for this job

Summary

Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

Cyfryngau Cymdeithasol

• Cynorthwyo ar gynllunio, creu a chyflwyno cynnwys digidol dwyieithog o safon uchel ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Mudiad, gan gynnwys Facebook (Mudiad Meithrin a Dewin a Doti), Instagram, LinkedIn ac YouTube.

• Cynorthwyo ar ddatblygu cynnwys creadigol, cywir, hygyrch ac effeithiol sy'n hyrwyddo gweledigaeth, gwerthoedd a gwaith Mudiad Meithrin, gan gadw at ganllawiau'r brand a meithrin ymgysylltiad ystyrlon â rhieni, teuluoedd, rhanddeiliaid a'r cyhoedd.

• Cydlynu, amserlennu a chyhoeddi cynnwys gan ddefnyddio systemau rheoli cyfryngau cymdeithasol, megis Meta Business Suite, gan sicrhau presenoldeb cyson ac amserol ar draws pob llwyfan.

• Cydweithio gydag adrannau eraill y Mudiad i gynllunio a chreu cynnwys digidol sy'n adlewyrchu eu blaenoriaethau drwy gydol y flwyddyn.

• Monitro, gwerthuso a dadansoddi perfformiad gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol, gan lunio adroddiadau a darparu mewnwelediadau ac argymhellion i gefnogi gwelliant parhaus a gwneud y defnydd gorau o ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata digidol.

• Cadw'n gyfredol â'r tueddiadau ac arferion gorau diweddaraf ym maes cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol, gan fanteisio ar gyfleoedd newydd i gynyddu cyrhaeddiad, ymgysylltiad ac effaith cynnwys y Mudiad.

Marchnata Cyffredinol

• Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd marchnata penodol y Mudiad mewn modd blaengar, creadigol a chyfoes.

• Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru gwefan Mudiad Meithrin yn ôl y gofyn.

• Cynorthwyo i greu cynnwys, dylunio amrywiol ddogfennau, taflenni, posteri a deunydd hyrwyddo a marchnata i wahanol ymgyrchoedd ac adrannau o’r Mudiad.

• Cynorthwyo gyda threfniadau a mynychu digwyddiadau cenedlaethol a thaleithiol e.e. Eisteddfodau a sioeau cenedlaethol, Taith Dewin a Doti, Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin, cynadleddau, lansiadau a digwyddiadau perthnasol i waith y Mudiad.

• Cyfrannu fel aelod o’r tîm marchnata at waith cyffredinol yr adran gan ddangos y gallu i fod yn hyblyg i ymgymryd â gwahanol dasgau yn ôl y gofyn a derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin.

• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Apply for this job

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Showing Disability Confident logo
About Disability Confident
Disability Confident is a government scheme. It encourages employers to recruit and retain disabled people and those with long term health conditions.

Related jobs

Swyddog Cymorth Adnoddau Dynol (Ceredigion)

£32,613 to £35,772 per year

Dyfed-Powys Police

HybridPermanentFull time

Asesydd Lefel 3 Cynlluniau Cam Wrth Gam (Cynllun Hyfforddi neu Cynllun Ysgolion)

£26,926 to £30,350 per year

Mudiad Meithrin Cyf

Aberystwyth, Cymru

HybridContractFull time

Asesydd dan Hyfforddiant Cynlluniau Cam Wrth Gam (Cynllun Hyfforddi neu Cynllun Ysgolion)

from £26,225 per year

Mudiad Meithrin Cyf

Aberystwyth, Cymru

HybridContractFull time
Browse more jobs