Cynorthwyydd addysgu lefel uwch (CALU)
| Company: | eTeach UK Limited |
|---|---|
| Salary: | Gradd 6 PCG 18 - 23, £32,578 - £ 35,570 (pro rata) |
| Hours: | Part-time |
| Location: | Duffryn, NP10 8BX |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 16 Sept 2026 |
| Closing date: | 6 Oct 2026 |
Summary
Cynorthwyydd addysgu lefel uwch (CALU) - Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae wedi’i leoli wrth ymyl Parc Tredegar, 20 munud o Gaerdydd a 5 munud o’r M4. Mae ein dysgwyr yn dod o ardal unigryw o ran hanes a diwylliant ac rydym yn hynod o falch ein bod yn ran o’r tŵf yn y Gymraeg yma yn Ne Ddwyrain Cymru.
Rydym yn ysgol gyfeillgar a chynhwysol yn ôl adroddiad Estyn 2022, ac rydym yn ymfalchio yn ein ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer holl gymuned yr ysgol. Mae ein gwerthoedd craidd yn cynnwys bod yn uchelgeisiol ar gyfer pob unigolyn yn yr ysgol, creu cymuned hapus lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn parchu ei gilydd a datblygu dysgwyr i fod yn unigolion hyderus sy’n arddel eu Cymreictod.
Rydym yn awyddus i benodi CALU brwd, egnîol a deallus a fydd yn cyfrannu’n llawn i wireddu gweledigaeth yr ysgol. Byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi datblygiad iaith dysgwyr y ganolfan drochi yn bennaf ac yna’n gweithredu cynlluniau ymyraethau llythrennedd ar draws yr ysgol.
Mae hwn yn gyfle arbennig i fod yn ran o dîm gweithgar a brwdfrydig sy’n angerddol dros sicrhau’r addysg o’r safon uchaf ar gyfer ein holl ddysgwyr. Mae Ysgol Gyfun Gwent is Coed wedi ymrwymo i ddatblygu dysgu proffesiynol parhaus holl staff yr ysgol a sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn derbyn profiadau ardderchog.
Gwahoddir ymgeiswyr i gychwyn cyn gynted â phosibl.Cyflog ar gyfer y swydd uchod: Gradd 6Dyddiad cau: Dydd Llun y 5ed o Hydref 2026
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Related jobs
Tiwtoriaid - Diwylliant, Hanes, Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth Cymru
£32 to £32 per hour
Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
RemoteContractPart timeCynorthwyydd Sicrwydd Ansawdd a Chymwysterau
£26,638 to £32,803 per year
Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Cardiff
On-siteContractFull time