Tiwtoriaid - Diwylliant, Hanes, Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth Cymru
| Company: | Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales |
|---|---|
| Salary: | £32 to £32 an hour |
| Hours: | Part-time |
| Working pattern: | Remote |
| Job type: | Contract |
| Posting date: | 15 Sept 2026 |
| Closing date: | 25 Sept 2026 |
Summary
Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid gymwysedig a medrus i gyflwyno cyrsiau Diwylliant, Hanes, Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth Cymru i ddysgwyr yn y meysydd canlynol:
Abertawe - Cyflwyno wyneb i wyneb - drwy gyfrwng y Saesneg/ yn ddwyieithog – tua 3 awr yr wythnos
Castell-nedd Port Talbot - Cyflwyno wyneb i wyneb - drwy gyfrwng y Gymraeg – tua 3 awr yr wythnos
Dosbarthu ar-lein – drwy gyfrwng y Saesneg/ yn ddwyieithog – tua 10 awr yr wythnos
Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, er mwyn cefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.
Noder os gwelwch yn dda: cyrsiau ar gyfer addysgu'r pedwar maes uchod yw'r rhain – nid yr iaith Gymraeg ei hun. Noder y bydd cyrsiau'n digwydd yn ystod y dydd yn unig.
Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.
Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):
• Cynllunio a pharatoi cyrsiau – paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.
• Cefnogi dysgwyr – Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’u llwybrau dilyniant.
• Cyffredinol – ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.
Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.
Ymgeisiwch erbyn 12.00yh Dydd Gwener 25ain Medi 2026 gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.
Proses Dethol a Recriwtio
Cynhelir cyfweliadau Dydd Llun 5ed Hydref.
Fel rhan o'r broses gyfweld gofynnir i chi gyflwyno sesiwn meicroaddysgu, a darparu cynllun gwers, cynllun gwaith, ac unrhyw adnoddau ar gyfer y sesiwn hon.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.
Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.
Related jobs
Swyddog Iaith Clebran Sir Conwy, Dinbych a Fflint (Cyfnod Penodol hyd at 30.4.2027)
£25,175 to £28,531 per year, pro rata
Mudiad Meithrin Cyf
RemoteContractPart timeDPPA/JT/612625 - Personal Assistant
Ceredigion County Council Direct Payment Support Service
RemotePermanentPart time