Skip to main content

This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr

Company:Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Salary:from £15.93 an hour
Hours:Part-time
Location:Wrexham
Working pattern:Field-based
Job type:Contract
Posting date:15 Sept 2026
Closing date:28 Sept 2026
Apply for this job

Summary

Mae gennym gyfle gwych ar gyfer Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr i gefnogi ein dysgwyr sy'n oedolion yn ardaloedd Y Drenewydd a Wrecsam. Byddwch yn cefnogi ac yn cynorthwyo dysgwyr yn unol â'u hanghenion, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol, a meini prawf asesu pwnc. Byddwch yn sefydlu perthynas gwaith adeiladol ac effeithiol gyda'r dysgwyr, gan weithio mewn partneriaeth â ac o dan gyfarwyddyd tiwtoriaid y dosbarth. Byddwch yn gweithredu gweithgareddau dysgu wedi'u cynllunio a/neu raglenni addysgu fel y cytunwyd gyda'r tiwtoriaid.

Mae rôl Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

- Cefnogi a chynorthwyo dysgwyr yn unol ag anghenion y dysgwyr ac polisïau a gweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru

- Sefydlu perthnasoedd gwaith adeiladol ac effeithiol gyda dysgwyr a rhyngweithio â nhw yn unol â'u hanghenion unigol, a helpu i feithrin eu hyder a gwella hunan-barch

- Cefnogi dysgwyr mewn gweithgareddau ymarferol amrywiol yn unol â meini prawf asesu pwnc y cwrs

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Ymgeisiwch erbyn 12yp Dydd Llun 28ain Medi gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch n ad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Cyfweliadau i'w trefnu yn ystod yr wythnos yn dechrau 5ed Hydref.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.

Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.

Os oes angen i chi gyflwyno'ch cais mewn dull arall, mae croeso i chi gysylltu gyda ni.

Apply for this job

Related jobs

Tiwtoriaid - Diwylliant, Hanes, Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth Cymru

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

RemoteContractPart time

Swyddog Ti a Fi Sir Fynwy

from £25,175 per year, pro rata

Mudiad Meithrin Cyf

RemoteContractPart time

Swyddog Iaith Clebran Sir Conwy, Dinbych a Fflint (Cyfnod Penodol hyd at 30.4.2027)

£25,175 to £28,531 per year, pro rata

Mudiad Meithrin Cyf

RemoteContractPart time
Browse more jobs