Skip to main content

This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Pennaeth yr Ysgol: Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth

Company:Vacancy Filler
Salary:Not specified
Hours:Full-time
Location:I fod wedi'ch lleoli ar unrhyw un o'n campysau, SA10 7RF
Job type:Permanent
Posting date:11 Sept 2026
Closing date:2 Oct 2026
Apply for this job

Summary

Rydym yn chwilio am unigolyn rhagorol i ddal ar y cyfle i gyflawni rôl Pennaeth yr Ysgol yn ein maes cwricwlwm, Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth. Fel arweinydd gweledigaethol yr adran flaengar hon, bydd gennych y cyfle i lunio dyfodol addysg yn y meysydd deinamig hyn.Graddfa Reoli, Pwyntiau 5-8, £59,175 - £64,307 y flwyddyn.Parhaol, amser llawn.37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).Grwp Colegau NPTC - I’w lleoli mewn unrhyw un o’n campysau - bydd angen teithio’n rheolaidd rhwng ein safleoedd.Ynglyn â chi: Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol gymhwyster lefel 6 (gradd neu gyfwerth) mewn pwnc perthnasol, cymhwyster a/neu brofiad perthnasol mewn rheolaeth. Hoffem fod gennych hefyd wybodaeth am a dealltwriaeth am amgylchedd dysgu am eich bod yn mynd i fod yn gweithio gydag ac yn cefnogi pobl ifanc.Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru. Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae  myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.Pam y dylech chi weithio i ni? Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 37 diwrnod o wyliau'r flwyddyn ac oherwydd ein bod yn cau'r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod ychwanegol o wyliau. Gyda'r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 50 diwrnod o wyliau blynyddol fel Rheolwr. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd. Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Apply for this job

Related jobs

Gweinyddydd Gwasanaethau Addysg Uwch

Vacancy Filler

Neath

PermanentFull time

Prentis (Lefel 2): Gweinyddiaeth Busnes

Vacancy Filler

Neath

ApprenticeshipFull time

Cynorthwyydd Cymorth Astudio

Vacancy Filler

Port Talbot

PermanentPart time
Browse more jobs