Prentis (Lefel 2): Gweinyddiaeth Busnes
| Company: | Vacancy Filler |
|---|---|
| Salary: | Not specified |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Neath, SA10 7RF |
| Job type: | Apprenticeship |
| Posting date: | 21 Aug 2026 |
| Closing date: | 18 Sept 2026 |
Summary
Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn ein hadran Addysg Uwch yng Ngrwp Colegau NPTC.Cyflog: £15,435 y flwyddyn neu'n amodol ar ddarpariaethau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (os yn berthnasol). 37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).Contract: Cyfnod penodedig amser llawn, hyd nes cwblhau'r Fframwaith Prentisiaethau, gan gynnwys y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (NVQ gynt) a Sgiliau Hanfodol. Y cyfnod hiraf ar gyfer pob lefel FfCCh yw 66 wythnos.Ynglyn â chi: Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â chymhwyster Lefel 2 y FfCCh mewn Gweinyddiaeth Busnes (darperir hyfforddiant). Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth). Amdanom ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru. Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.Pam gweithio i ni?Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth), ac oherwydd ein bod yn cau'r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod ychwanegol o wyliau. Gyda'r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol fel Prentis. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae budd-daliadau salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd. Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!
Related jobs
Pennaeth yr Ysgol: Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth
Vacancy Filler
I fod wedi'ch lleoli ar unrhyw un o'n campysau
PermanentFull time