Job Title Housing Solutions Assessment Officer
| Company: | Conwy County Borough Council |
|---|---|
| Hours: | Full-time |
| Location: | Colwyn Bay, LL29 7AZ |
| Working pattern: | Hybrid - 1 day remote |
| Job type: | Temporary |
| Posting date: | 9 Sept 2026 |
| Closing date: | 23 Sept 2026 |
Summary
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i aelwydydd sydd angen tai? Rydym yn chwilio am unigolyn hynod frwdfrydig i ymuno â'n tîm o Swyddogion Datrysiadau Tai i atal a lleddfu digartrefedd yng Nghonwy.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol rheng flaen yn darparu gwasanaeth modern a hyblyg o'r radd flaenaf i rai o'r bobl fwyaf diamddiffyn yn y Sir. Byddwch yn cyflawni swyddogaeth asesu a gwneud penderfyniadau tai a digartrefedd statudol y cyngor, gan ganolbwyntio'n benodol ar atal digartrefedd.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth am wasanaethau tai, yn enwedig Deddf Tai (Cymru) 2014, ynghyd â dealltwriaeth o bwysigrwydd atal digartrefedd. Croesewir profiad blaenorol ac rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n dangos dealltwriaeth o anghenion amrywiol aelwydydd wrth asesu a phenderfynu ar y dyletswyddau statudol sy'n ymwneud â cheisiadau digartrefedd. Bydd gennych hefyd y gallu i ddeall sefyllfaoedd cymhleth a chyflym a dehongli deddfwriaeth.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r gwasanaeth Datrysiadau Tai yng Nghonwy. Rydym ar hyn o bryd yn symud ymlaen gyda'n Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym, gyda'r nod o wneud digartrefedd yn brin, yn fyrhoedlog ac yn ddigwyddiad na chaiff ei ailadrodd yn y Sir. Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, uchel eu cymhelliant ac sydd am gael y canlyniadau gorau un i drigolion y Sir. Byddwch yn ymuno â thîm prysur a gweithgar yn ystod cyfnod o drawsnewid lle mae pob diwrnod yn cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
O fewn y tîm, byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi gan eich cydweithwyr hynod frwdfrydig ac ymroddedig. Mae yna hefyd dîm pwrpasol o reolwyr profiadol a chefnogol, sydd ar gael bob amser. Bydd y rheolwyr yn cynnig cymorth drwy oruchwyliaeth ffurfiol reolaidd a sesiynau cyswllt dyddiol anffurfiol.
Byddwch yn cael y cyfle i weithio'n hyblyg o gartref ac o swyddfa 'Coed Pella' ym Mae Colwyn, sy'n eich galluogi i fod mewn cysylltiad ag adrannau partner gan gynnwys Gofal Cymdeithasol, Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg, Gwasanaethau Ieuenctid a llawer mwy. Rydym ni’n hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng bywyd a gwaith, a gallwn gynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio’n hyblyg.
Byddwch yn elwa o becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, lleiafswm o 26 diwrnod o wyliau blynyddol (gan ddibynnu ar wasanaeth blaenorol mewn Awdurdod Lleol), Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff sy’n cynnwys cynllun aberthu cyflog i brynu car, Beicio i’r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gostyngiadau a llawer mwy.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nicola Jones, Rheolwr Datrysiadau Tai (nicci.jones@conwy.gov.uk / 01492 576287)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Do you want to make a difference to households in housing need? We are looking for an extremely motivated individual to join our team of Housing Solutions Officers to prevent and relieve homelessness in Conwy.
You will be the frontline professional delivering a first class, modern and flexible service to some of the most vulnerable people in the County. You will fulfil the council's statutory housing and homelessness assessment and decision making function, with particular focus on preventing homelessness.
We are looking for someone with housing knowledge, especially the Housing (Wales) Act 2014, plus an understanding of the importance of homelessness prevention. Previous experience is welcomed and we are looking for candidates that demonstrate an understanding of the varying needs of households when assessing and determining the statutory duties involved with homeless applications. You will also have an ability to understand complex, fast paced situations and interpret legislation.
This is an exciting time to be joining the Housing Solutions service in Conwy. We are currently moving forward with our Rapid Rehousing Transition Plan, aiming to make homelessness rare, brief and unrepeated in the County. We are seeking highly motivated and enthusiastic individuals who want to get the very best outcomes for residents of the County. You will be joining a busy and hardworking team during a time of transformational change where every day offers an opportunity to make a positive difference.
Within the team you will feel supported by your committed and highly motivated colleagues. There is also a dedicated team of experienced, supportive and readily available managers. The management support will be available through regular formal supervision and informal daily check-ins.
You will have the opportunity of working flexibly from both home and the state of the art ‘Coed Pella’ office in Colwyn Bay, which allows you to be in contact with partner departments including Social Care, Youth Justice, Education, Youth Services and many others. We promote and understand the importance of a positive and healthy work life balance and can offer a range of flexible working solutions.
You will benefit from a substantial rewards package, which includes a Local Government Pension Scheme, minimum of 26 days annual leave (depending on previous Local Authority service), Occupational Sick Pay and staff benefits including salary sacrifice cars, Cycle to Work, cashback healthcare, discounts plus much more.
Manager details for informal discussion: Nicola Jones, Housing Solutions Manager (nicci.jones@conwy.gov.uk / 01492 576287)
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
About Disability Confident
Related jobs
Tiwtoriaid - Diwylliant, Hanes, Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth Cymru
£32 to £32 per hour
Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
RemoteContractPart timeGweithiwr Cymorth lle bo'r Angen
£29,452.57 to £29,452.57 per year
Vacancy Filler
Windsor Street , Rhyl
PermanentFull timeAssessing and Reviewing Officer
https://webrecruitment.secure.conwy.gov.uk/itlive_webrecruitment/wrd/run/etrec179gf.open?WVID=771951DBXU&LANG=USA&VACANCY_ID=967227RF7G
Conwy County Borough Council
Colwyn Bay, Conwy
HybridPermanentFull time