Swyddog Project
| Company: | Bangor University |
|---|---|
| Salary: | £31,236 to £37,694 a year, pro rata |
| Hours: | Part-time |
| Location: | Bangor, LL57 2TH |
| Working pattern: | Hybrid - 2 days remote |
| Job type: | Temporary |
| Posting date: | 9 Sept 2026 |
| Closing date: | 9 Oct 2026 |
Summary
Gwahoddir ceisiadau am swydd ran amser (21.75 awr), dros gyfnod penodol, yn y Project Ymestyn yn Ehangach o fewn y Gyfarwyddiaeth Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu, yn gweithio ar raglen fentora genedlaethol, yn gyfrifol am recriwtio, cyflwyno a hyrwyddo rhaglen fentora genedlaethol ar gyfer blwyddyn academaidd 2026-27, gan ddefnyddio llwyfan mentora ar-lein sydd eisoes yn bodoli.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at lefel 2 gymhwyster Uwch Gyfrannol neu 1 cymhwyster Safon Uwch neu NVQ lefel 4 mewn maes pwnc perthnasol, bod â chymhwyster neu achrediad proffesiynol sy’n berthnasol i’r swydd, a bod â phrofiad o ymgysylltu trwy gyfrwng rhaglen allgymorth a/neu raglen fentora gyda charfannau targed Ymestyn yn Ehangach, a hynny mewn cyd-destun addysgol.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Mae’r swydd hon yn amodol ar gael gwiriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ym mis Hydref 2026 neu cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny ac mae'r swydd ar gael tan 30/07/2027.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor neu ym Mhrifysgol Wrecsam. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 27 Medi 2026
Cynhelir y cyfweliadau ar: 13 Hydref 2026.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Tanya Jones, Rheolwr Project, tanya.jones@bangor.ac.uk neu 01248 383045.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
About Disability Confident
Related jobs
Conveyancing Assistant
from £25,000 per year
Carter Vincent LLP
Bangor , Gwynedd
On-sitePermanentFull time