Skip to main content

This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Team Leader

Company:Caretech
Salary:£14.45 to £14.45 an hour
Hours:Full-time
Location:Y Felinheli, LL56 4XA
Job type:Permanent
Posting date:8 Sept 2026
Closing date:7 Oct 2026
Apply for this job

Summary

ARWEINYDD TÎM

 

Lleoliad -Y Felinheli, Gwynedd

Contract - Llawn Amser

Math o Rôl - Parhaol

Oriau gweithio wythnosol - 37.5

Cyflog - 14.45

Dyddiad Cau - Dydd Iau, 30 Medi 2026

Arweinydd Tîm

Complete Care & Enablement & CareTech Community Services Ltd

Lleoliad: Y Felinheli, Gwynedd

Cyflog: £14.45 yr awr a hefyd £62.64 lwfans cysgu mewn

Oriau: 37.5 awr yr wythnos (llawn amser)

Cofiwch: Ni allwn ystyried ymgeiswyr gyda Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Myfyriwr ac ni allwn gynnig nawdd ar gyfer y rôl hon.

Mae’r Iaith Gymraeg yn Hanfodol

Diwrnodau Anhygoel, Pob Dydd

Yn CareTech, credwn mewn creu Diwrnodau Anhygoel, Pob Dydd. Fel darparwr blaenllaw o gymorth person-ganolog, grymuswn oedolion ag anghenion cymhleth i wneud eu dewisiadau bywyd eu hunain, magu hyder a dod yn fwy annibynnol, a byw bywydau llawn yn eu cymuned.

Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm profiadol ac ymroddedig i ymuno â’n gwasanaeth yn y Felinheli, Gwynedd, i gefnogi oedolion gydag awtistiaeth, anableddau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl ac anghenion niwrolegol ar draws Gogledd Cymru.

Os ydych yn teimlo’n gryf am arwain eraill, darparu gofal o ansawdd uchel, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

Amdan y Gwasanaeth

Mae Complete Care & Enablement yn rhoi cymorth arbenigol i unigolion sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain ac mewn tai a llety cymorth ledled Gogledd Cymru.

Mae ein gwasanaethau’n amrywio o wasanaeth llety cymorth 24 awr i allgymorth, gan helpu pobl i ddatblygu sgiliau bywyd, cadw eu tenantiaeth, dod yn fwy annibynnol a byw’r bywyd y maent yn dewis ei fyw gydag urddas, parch a hyder.

Fel Arweinydd Tîm, bydd gennych rôl allweddol mewn sicrhau bod ein timau’n parhau i ddarparu cymorth person-ganolog rhagorol gan rymuso’r bobl a gefnogwn i gyflawni eu hamcanion bywyd.

Y Rôl

Fel Arweinydd Tîm, byddwch yn:

Arwain, cefnogi a goruchwylio staff cymorth

Hwyluso cyfarfodydd tîm a sesiynau goruchwylio staff

Cyfrannu at ac adolygu cynlluniau cymorth person-ganolog

Cefnogi’r Rheolwr Gwasanaeth gydag archwiliadau llywodraethu a sicrhau ansawdd

Helpu i reoli’r rota, dyrannu shifftiau a threfnu staff i lenwi mewn ar gyfer gwyliau blynyddol a hyfforddiant

Cefnogi unigolion a’u teuluoedd i wneud dewisiadau gwybodus am ofal ac annibyniaeth

Hyrwyddo Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) ar draws y gwasanaeth

Hyrwyddo safonau gofal, diogelwch a chydymffurfio uchel

Arwain drwy esiampl ac ysgogi timau i ddarparu canlyniadau eithriadol

Amdanoch Chi

I lwyddo yn y rôl hon, bydd gennych:

Gofynion Hanfodol

Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd gofal, preswyl neu lety cymorth

Profiad o arwain neu oruchwylio timau gofal

Cymhwyster lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (neu dystiolaeth o weithio tuag ato)

Profiad o gefnogi oedolion ag awtistiaeth

Profiad o gefnogi oedolion ag anableddau dysgu

Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg

Sgiliau cyfathrebu ac ysgrifenedig rhagorol

Galluoedd arweinyddiaeth a threfniadaeth cryf

Agwedd dawel a gwydn dan bwysau

Argyhoeddiad diffuant i wella bywydau pobl eraill

Pam ymuno â CareTech?

Gwerthfawrogwn ein cydweithwyr a chynigiwn ystod o fanteision i gefnogi eich lles, datblygiad a’ch cynnydd gyrfaol.

Gwobrwyon a Manteision

Bonws Croeso £500*

Bonws Argymell Ffrind*

Disgowntiau Cerdyn Golau Glas

Ad-daliad o ffioedd cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru

Gwiriad DBS am ddim

Rhaglen Cymorth i Weithwyr am ddim

Manteision gweithwyr “safon diwydiant”

Cyfleoedd parhaus i ddysgu a datblygu

Llwybrau cynnydd gyrfaol clir

Grantiau Sylfaen CareTech i deulu a ffrindiau

*Mae telerau ac amodau’n berthnasol Talwn y bonysau ar ôl i chi gwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus.

Ein Gwerthoedd

Mae popeth a wnawn yn seiliedig ar ein gwerthoedd:

Cyfeillgar

Cadarnhaol

Grymusol

Person-Ganolog

Arloesol

Amdan CareTech

Wedi’i sefydlu yn 1993, CareTech yw un o brif dd

Apply for this job

Related jobs

Support Worker

£13.45 to £13.45 per hour

Caretech

Y Felinheli

PermanentFull time

Swyddog Project

£31,236 to £37,694 per year, pro rata

Bangor University

Bangor, Gwynedd

HybridTemporaryPart time

Conveyancing Assistant

from £25,000 per year

Carter Vincent LLP

Bangor , Gwynedd

On-sitePermanentFull time
Browse more jobs