Skip to main content

This is a new service. Help us improve it and give your feedback (opens in new tab).

English |

Swyddog yr Academi Sgrin

Company:Bangor University
Salary:£31,236 to £37,694 a year, pro rata
Hours:Part-time
Location:Bangor, LL57 2TH
Working pattern:On-site
Job type:Temporary
Posting date:12 Nov 2026
Closing date:30 Nov 2026
Apply for this job

Summary

Dyma wahodd ceisiadau am y swydd ran amser (14.5 awr), dros dro uchod yn gweithio yn Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Phrifysgol Bangor i’n helpu i lunio darpariaeth unigryw a dwyieithog gyda’r Academi Sgrin yma yng ngogledd Cymru. Menter gydweithredol yw hon sydd â’r nod o hybu cyfleoedd rhanbarthol i bobl ifanc gael mynediad at gyfleoedd yn y gweithle mewn stiwdios cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru. Mae'r swydd yn gofyn am ddull pragmatig sy’n seiliedig ar werthoedd wrth weithio gyda diwydiant, Addysg Uwch, Addysg Bellach ac ysgolion.

Mae'r Academi Sgrin yn rhan o rwydwaith o Academïau Sgrin sydd wedi'u lleoli mewn prifysgolion a stiwdios ledled Cymru. Mae'r Academi yma yng ngogledd Cymru yn canolbwyntio'n benodol ar hyrwyddo sgiliau a chyfleoedd mewn cynhyrchu dwyieithog mewn cydweithrediad â Stiwdios Aria yn Llangefni (https://ariafilmstudios.com/?lang=cy). Mae'r Academi Sgrin hefyd yn rhan o gynllun ehangach Sefydliad Ffilmiau Prydain (BFI) sef 'Siop un Stop' dan arweinyddiaeth Sgil Cymru (www.siopunstop-onestopshop.cymru).

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael addysg hyd at lefel cymhwyster Safon Uwch mewn maes (meysydd) pwnc priodol neu bydd ganddynt brofiad proffesiynol cyfatebol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo’r Academi Sgrin fel adnodd a rennir, gan ddarparu cefnogaeth barhaus i gyrsiau Ffilm a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor a chyrsiau partneriaid addysgol eraill gan gynnwys Colegau Addysg Bellach a Chynghrair Sgrin Cymru (www.screenalliancewales.com) wrth iddynt geisio mynediad at y cyfleusterau newydd hyn ac ymgysylltu â nhw.

Dylai fod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth dda o faes cynhyrchu ffilm a theledu a phrofiad o reoli projectau a chyllidebau. Mae bod â sgiliau gweinyddol a sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.

Gwnaed y swydd hon yn bosibl gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Sefydliad Ffilmiau Prydain (BFI).

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.

Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Lleolir y swydd ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 30 Tachwedd, 2026.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Carol Jones, Rheolwr yr Academi Sgrin; e-bost: carol.jones@bangor.ac.uk

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Essential requirements

.

Apply for this job

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Showing Disability Confident logo
About Disability Confident
Disability Confident is a government scheme. It encourages employers to recruit and retain disabled people and those with long term health conditions.

Related jobs

Cynorthwyydd Personol i Bennaeth y Coleg a Gweinyddwr Cyffredinol y Coleg

£27,319 to £30,378 per year

Bangor University

Bangor, Gwynedd

HybridTemporaryFull time

Swyddog Cefnogi Project Ymchwil / Research Project Support Officer

£31,236 to £37,694 per year, pro rata

Bangor University

Bangor

HybridTemporaryPart time

Gweithiwr Cefnogi

from £25,422 per year, pro rata

Bangor University

Bangor, Gwynedd

On-siteTemporaryPart time
Browse more jobs