This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Swyddog Gwasanaethau Myfyrwyr

Company:eTeach UK Limited
Salary:£27,709 - £29,542 Pro Rata | Grade 4
Hours:Part-time
Location:Torfaen, NP4 8JD
Working pattern:On-site
Job type:Contract
Posting date:4 Sept 2026
Closing date:26 Sept 2026
Apply for this job

Summary

Contract: 1 flwyddyn i gychwynOriau: 30 awr (Amser tymor yn unig – 39 wythnos)Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar ddechrau cyfnod cyffrous yn ei hanes. Ym Medi 2022, agorwyd Ysgol Gymraeg Gwynllyw fel ysgol bob oed, wrth i’n hadran gynradd groesawu ei disgyblion cyntaf.Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.Agorodd Ysgol Gyfun Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988 ac ers y cyfnod hynny, braf yw gweld addysg Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal hon. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Mae’r ysgol hefyd yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd a chynigir amryw o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fel rhan o hyn.Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cydweithio’n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos. Mae prif gyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys –Bod yn brif bwynt cyswllt i bob myfyriwr sy'n dod i swyddfa'r ysgolCynorthwyo disgyblion gydag ymholiadauYmgymryd â rôl PA i aelodau'r UDAAteb galwadau, ymholiadau gan rieni a'r cyhoeddDidoli a dosbarthu post mewnolTrefnu a phostio llythyrau allanol at rieniDiweddaru calendr yr ysgol, safleoedd gwe a chyfryngau cymdeithasol yn ôl yr angenRheoli systemau rheoli gwybodaeth a chyfrifiadurol (SIMS)Ymgymryd â theipio, prosesu geiriau a thasgau TG eraillArgraffu, printio, sganio & ffeilio dogfennauDarparu cymorth cyntaf sylfaenol i staff a disgyblion Os oes gennych chi'r rhinweddau i wneud cyfraniad blaengar i'r ysgol edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Nid oes disgwyl bod gennych brofiad o'r swydd hon, a bydd hyfforddiant ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus. Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd. Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad. Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.

Apply for this job

Related jobs

Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol – Cylch Meithrin Dechrau’n Deg Gwdihŵ, Brynithel

from £13.11 per hour

Mudiad Meithrin Cyf

Brynithel

On-siteContractPart time

Arweinydd Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw

from £28,879.50 per year, pro rata

Mudiad Meithrin Cyf

Brynithel, Blaenau Gwent

On-sitePermanentPart time

Male Support Worker

from £13.45 per hour

ivolve care & Support

Ebbw Vale

On-sitePermanentFull time
Browse more jobs