Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol – Cylch Meithrin Dechrau’n Deg Gwdihŵ, Brynithel
| Company: | Mudiad Meithrin Cyf |
|---|---|
| Salary: | from £13.11 an hour |
| Hours: | Part-time |
| Location: | Brynithel, NP13 2GZ |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Contract |
| Posting date: | 1 Sept 2026 |
| Closing date: | 15 Sept 2026 |
Summary
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr/Arweinydd y cylch ac yn gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Cynnig cymorth a chefnogaeth briodol er mwyn sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael yr un cyfleoedd a’i gyfoedion i fwynhau ac elwa o weithgareddau’r Cylch
· Sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael ei gynnwys yn llawn ym mhob agwedd o waith y Cylch, gan addasu’r adnoddau a’r gweithgareddau lle bo angen
· Cynorthwyo’r Arweinydd i lunio rhaglen o weithgareddau amrywiol a fydd yn ateb anghenion y plentyn, ac yn sicrhau ei fod yn datblygu i’w lawn botensial tra yn y Cylch Meithrin
· Cydweithio â’r Arweinydd a’r rhieni er mwyn llunio Cynllun Addysg Unigol/Cynllun Chwarae Addysg ar gyfer plentyn ag anghenion ychwanegol yn y Cylch
· Cydweithio â’r Arweinydd er mwyn sicrhau bod offer, dodrefn ac adnoddau addas ar gael a fydd yn galluogi’r plentyn i gymryd rhan yn holl weithgareddau’r Cylch
· Derbyn cyngor a chyfarwyddyd gan Gysylltydd y Cynllun Cyfeirio ac arbenigwyr sy’n ymwneud â’r plentyn, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a gynigir yn y Cylch yn addas ar gyfer anghenion penodol y plentyn
· Cynorthwyo’r Arweinydd i gadw cofnod manwl o ddatblygiad y plentyn
· Cydweithio â’r Arweinydd er mwyn sicrhau bod y rhieni/gwarcheidwaid yn cael cyfle i drafod datblygiad eu plentyn.
· Dilyn holl bolisïau a gweithdrefnau’r cylch.
· Sicrhau bod trefniadau amser bwyd/snac yn cael eu gweithredu yn briodol.
· Sicrhau bod amserau bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i’r plant.
· Defnyddio’r dull Trochi gan sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd.
· Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored.
· Arddangos gwaith y plant.
· Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon fel rhan o’r tîm a sicrhau mewnbwn i drefniadau’r dydd.
· Cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn ôl yr angen a rhieni.
· Cydymffurfio a safonau Gofynnol a Rheoliadau AGC.
· Dilyn gweithdrefnau Hylendid ac Iechyd a Diogelwch.
· Sicrhau bod yr offer ac adnoddau yn ddiogel ac yn addas at ystod oedran.
· Sicrhau bod yr ystafell a’r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar.
· Mynychu hyfforddiant perthnasol fel bo angen.
· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr/Arweinydd a’r Dirprwy Rheolwr Talaith.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
About Disability Confident
Related jobs
Swyddog Gwasanaethau Myfyrwyr
£27,709 - £29,542 Pro Rata | Grade 4
eTeach UK Limited
Torfaen, Torfaen
On-siteContractPart timeArweinydd Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw
from £28,879.50 per year, pro rata
Mudiad Meithrin Cyf
Brynithel, Blaenau Gwent
On-sitePermanentPart time