Cydlynydd Allgymorth STEM
| Company: | Bangor University |
|---|---|
| Salary: | £31,236 to £37,694 a year |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Bangor, LL57 2TH |
| Working pattern: | Hybrid - 2 days remote |
| Job type: | Temporary |
| Posting date: | 4 Sept 2026 |
| Closing date: | 20 Sept 2026 |
Summary
Dyma wahodd ceisiadau am y swydd lawn amser dros dro uchod yn gweithio ar y Project Ymestyn yn Ehangach o fewn y Gyfarwyddiaeth Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Bangor. Bydd deiliad y swydd yn dylunio, cynnal a gwerthuso cyfres o weithdai STEM mewn ysgolion a chymunedau ledled gogledd a chanolbarth Cymru ac yn gweithio gyda phartneriaid y rhaglen Ymestyn yn Ehangach, a gyda Myfyrwyr sy'n Fentoriaid i gyflwyno gweithgareddau a gweithdai hwyliog ac addysgiadol i’r dysgwyr hynny y mae Ymestyn yn Ehangach yn rhoi blaenoriaeth iddynt.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys hyrwyddo, trefnu a chynnal cyfres o weithdai STEM blaengar, a fydd yn codi dyheadau ac ymwybyddiaeth am addysg uwch, sgiliau a chyrhaeddiad ymysg grwpiau blaenoriaeth Ymestyn yn Ehangach.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at lefel Safon Uwch neu NVQ lefel 4 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol a dylai fod ganddynt brofiad o ymgysylltu â charfannau targed Ymestyn yn Ehangach trwy waith allgymorth mewn cyd-destun addysgol ynghyd â phrofiad o ddatblygu gweithgareddau dysgu blaengar i oedolion yn ddwyieithog. Byddai cefndir mewn pynciau STEM neu mewn addysg yn fanteisiol i’r swydd hon.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted ag y bo modd ac mae'r swydd ar gael tan Awst 2027.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Mae’r swydd yn amodol ar wiriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r swydd hon wedi'i lleoli naill ai ar gampws Bangor neu Wrecsam ym Mhrifysgol Bangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 20 Medi 2026.
Cynhelir cyfweliadau: 6 Hydref 2026.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Rheolwr y Project, Sarah Zanellan - s.zanellan@bangor.ac.uk neu 01248 382835.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
About Disability Confident
Related jobs
Lecturer in Law T&S (Maternity Cover) (20% FTE)
£38,784 to £46,049 per year, pro rata
Bangor University
Bangor, Gwynedd
HybridTemporaryPart timeLecturer in Law T&S (40% FTE)
£38,784 to £46,049 per year, pro rata
Bangor University
Bangor, Gwynedd
HybridPermanentPart time