This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Teaching Assistant Level 2 - Penparc Primary School

Company:Ceredigion County Council
Salary:£25,185
Hours:Part-time
Location:SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Contract
Posting date:20 Aug 2026
Closing date:6 Sept 2026
Apply for this job

Summary

The following is an advert where the ability to converse through the medium of Welsh and English is essential.

Ydych chi’n berson brwdfrydig, egnïol sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau plant? Hoffech chi ymuno ag ysgol hapus, ofalgar a llwyddiannus lle mae lles a chynnydd pob disgybl yn ganolog i bopeth a wnawn?

Mae Ysgol Gymunedol Penparc yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 medrus i ymuno â’n tîm ymroddedig mor fuan â phosib, am gyfnod o flwyddyn i gychwyn. Gyda 128 o ddisgyblion ar y gofrestr, rydym yn gymuned glos sy’n rhoi pwyslais ar ofal, cydweithio a chreu cyfleoedd dysgu cyffrous i bawb.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi dysgu a datblygiad disgyblion ac yn cyd-weithio i gefnogi disgybl sydd ag amhariad golwg am un diwrnod yr wythnos.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd hon.

Disgwyliadau’r rôl:

- Cefnogi disgyblion, gan gynnwys rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, mewn amgylchedd diogel a chynhwysol.

- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion a’u hannog i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu.

- Hyrwyddo hunan-barch, annibyniaeth a chydweithio ymhlith disgyblion.

- Gweithio’n agos gydag athrawon i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu ystyrlon.

- Bod yn rhan weithgar o dîm cefnogol ac ymroddedig.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:

- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

- Yn gallu adeiladu perthnasau cadarn dros ystod oedran a gallu.

- Yn gweithio’n hyblyg ac yn gadarnhaol fel rhan o dîm.

- Yn meddu ar gymhwyster CGC2 neu brofiad cyfatebol.

Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn fantais, ond nid yn hanfodol.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106850.pdf]

Am fwy o fanylion, mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda’r Pennaeth Bethan Morgan-Jenkins drwy e-bost: prif@penparc.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Deputy Headteacher - Penparc Primary School

£52,680 to £58,136 per year

Ceredigion County Council

On-sitePermanentFull time

Tiwtoriaid - Diwylliant, Hanes, Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth Cymru

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

RemoteContractPart time

Tiwtoriaid Llythrennedd Digidol

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

RemoteContractPart time
Browse more jobs