This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Deputy Headteacher - Penparc Primary School

Company:Ceredigion County Council
Salary:£52,680 - £58,136
Hours:Full-time
Location:SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:19 Aug 2026
Closing date:6 Sept 2026
Apply for this job

Summary

The following is an advert for a Deputy Headteacher where the ability to converse through the medium of Welsh and English is essential.

Hysbyseb am Ddirprwy Bennaeth i Ysgol Gymunedol Penparc, ac mae'n ofynnol i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar gyfer y swydd.

Mae llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth (parhaol) ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i'r Pennaeth ac yn cynorthwyo i reoli'r ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon. Fe fydd y Dirprwy Bennaeth yn gyfrifol am yr ysgol ddeuddydd yr wythnos yn ystod absenoldeb y Pennaeth. Yn ogystal, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ymrwymiad addysgu, a byddai cynnig arbenigedd o fewn y maes ADY yn fanteisiol.

Fe fydd yr unigolyn yn: 

- dylanwadu ar gydweithwyr trwy osod esiampl fel model rôl drefnus a chydwybodol;

- barod i weithio fel rhan o uwch dim rheoli cadarn;

- hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb;

- ymgynghori a chynnig cyngor adeiladol i'r Pennaeth mewn meysydd a fyddai'n fanteisiol i'r ysgol;

- cysylltu â staff, disgyblion a rhieni i annog hyrwyddo awyrgylch gynhwysol ac ethos gwaith effeithiol;

- bod yn gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy'n codi oherwydd absenoldebau wythnosol;

- arwain ar faes arbenigedd o fewn cynlluniau strategol a phrosesau gwerthuso a gwella’r ysgol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:

- gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant a datblygiad parhaus yr ysgol, gan wreiddio ei rôl ganolog o fewn y gymuned leol;

- dealltwriaeth o arferion dysgu ac addysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i'w datblygu drwy'r ysgol gyfan;

- medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu;

- arddangos angerdd dros hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan ganolog o fywyd a gwaith yr ysgol;

- gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol ar sail ymchwil;

- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm;

- ymrwymiad cryf i gyfoethogi'r cysylltiadau gyda'r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion lleol a thu hwnt.

Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle euraidd i unigolyn brwdfrydig ac uchelgeisiol weithio mewn ysgol gymunedol lwyddiannus sydd o fewn cyrraedd tafliad carreg i dref Aberteifi. Bydd yn cynnig profiad gwerthfawr i unigolyn sy’n awyddus i arwain, arloesi a chyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygiad parhaus yr ysgol.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106846.pdf]

Dyddiad cau: Canol nos Sul, 6 Medi 2026 am 11:59yh

Dyddiad cyfweld: Wythnos i ddechrau - 14 Medi 2026

Am fwy o fanylion, mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda’r Pennaeth Bethan Morgan-Jenkins drwy e-bost: prif@penparc.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Teaching Assistant Level 2 - Penparc Primary School

from £25,185 per year, pro rata

Ceredigion County Council

On-siteContractPart time

Tiwtoriaid - Diwylliant, Hanes, Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth Cymru

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

RemoteContractPart time

Tiwtoriaid Llythrennedd Digidol

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

RemoteContractPart time
Browse more jobs