This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 - Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg

Company:Ceredigion County Council
Salary:£25,583 - £25,989
Hours:Full-time
Location:SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Temporary
Posting date:22 Jul 2026
Closing date:11 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Ydych chi wedi ystyried gweithio ym maes Gofal Preswyl i Oedolion? Rydym am tyfu ein tîm!

Ydych chi'n mwynhau gofalu am eraill neu a ydych chi'n chwilio am her newydd? Ymunwch â’n tîm gweithgar, cyfeillgar a chefnogol yng Nghartref Gofal Preswyl Hafan Deg i weld y gwahaniaeth gwirioneddol y gallwch ei wneud.

Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 Wrth Gefn i ymuno â Chartref Gofal Preswyl Hafan Deg, Llambed.

Nid yw profiad blaenorol o weithio mewn cartref gofal yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei darparu. Cyn belled â bod gennych garedigrwydd, amynedd, parch a gwytnwch - gallwn ddysgu'r gweddill i chi!

Am y rôl

Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon. Fel canllaw cyffredinol, gall eich dyletswyddau dyddiol gynnwys:

- darparu gofal cyflawn i gleientiaid yn unol â'r drefn ddyddiol fel yr amlinellir yn y cynlluniau gofal

- darparu cymorth emosiynol a sicrwydd i gleientiaid, yn enwedig pan fydd angen iddynt addasu i newid/a/neu argyfwng teuluol

- rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, gan gynnwys cyffuriau rheoledig, yn unol â pholisi a gweithdrefn

- hebrwng cleientiaid allan o'r sefydliad, e.e. teithiau hamdden

- cwblhau cofnodion dyddiol

- cynnal gwasanaeth glanhau, golchi dillad ac ystafell fwyta

Ein cynnig i chi

Mae cyfraniad ein gweithwyr i iechyd, diogelwch a llesiant preswylwyr ein cartrefi gofal yn amhrisiadwy. Rydym felly am sicrhau bod ein Gweithwyr Gofal a Chymorth yn gweld gweithio i Geredigion yn brofiad gwerth chweil.

Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion gweithwyr, gan gynnwys:

- hyd at 34 diwrnod o wyliau blynyddol

- mentrau iechyd a lles gan gynnwys cymorth am ddim o ran ffordd o fyw a chwnsela,

- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

- tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch

- Mynediad i gynllun disgowntiau ac arbedion ffordd o fyw Vivup

- cyfleoedd dysgu a datblygu i gefnogi dilyniant gyrfa

- cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun Beicio i'r Gwaith

I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion cyflogeion cliciwch yma [https://careers.ceredigion.gov.uk/cy/bywyd-ceredigion/yr-hyn-a-gynigiwn/].

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn gofalgar a thosturiol ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Cyflwyno cais

Rydym wedi ei gwneud yn haws I chi wneud cais drwy symleiddio ein ffurflen gais. Mae cyflwyno cais nawr yn haws nag erioed!

Os bydd angen Cymorth arnoch I gwblhau eich cais,mae croeso I chi gysylltu a 01970 6333949 neu e-bostio adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk

Gwybodaeth ychwanegol

Mae’r rol hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau fel rhan o wythnos waith arferol neu rota. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl I’r tal canlynol:

- Dydd Sadwrn – Amser a chwarter

- Dydd Sul- Amser a hanner

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106813.pdf]

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Matthew Parry: Matthew.parry@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Gweithiwr Gofal a Chymorth - Gwasanaethau Gofal a Galluogi wedi'u Targedu

£26,403 to £27,694 per year

Ceredigion County Council

Canolfan Rheidol

On-sitePermanentFull time

Rheolwr Cynorthwyol - Tîm Llety Diogel i Blant

£35,412 to £37,280 per year

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-sitePermanentFull time

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 (Wrth Gefn) - Tîm Llety Diogel i Blant

£26,403 to £27,694 per year

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-siteTemporaryFull time
Browse more jobs