This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 3 - Cartref Gofal Preswyl Min y Môr

Company:Ceredigion County Council
Salary:£28,598 - £30,518
Hours:Part-time
Location:SA46 0PA
Working pattern:On-site
Job type:Permanent
Posting date:21 Jul 2026
Closing date:10 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym am recriwtio Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 3 i ymuno â'n tîm.

Dyletswyddau gofalu a chynorthwyo

- Cyflawni dyletswyddau fel y nodir mewn cynlluniau gofal a chymorth, bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sydd ag anghenion cymhleth neu ddwys.

- Cynnal rhaglenni gwaith penodol yn uniongyrchol ac yn rhithwir gydag oedolion a hynny un-i-un neu mewn grŵp, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill i gefnogi cynlluniau gofal a chymorth unigol.

- Sicrhau y cedwir at systemau gweithio diogel o ddydd i ddydd er mwyn galluogi’r gwasanaeth i fodloni gofynion RIDDOR, COSHH, codi a chario, cymorth cyntaf a meddyginiaeth.

- Ymateb i unrhyw sefyllfaoedd brys drwy gymryd y camau priodol e.e. cysylltu â meddyg, gwasanaeth ambiwlans, gwasanaeth tân, gwasanaeth heddlu ac ati.

- Bod yn gyfrifol am drin yn ddiogel eiddo ac offer sy’n perthyn i’r defnyddiwr gwasanaeth.

- Meithrin perthynas waith effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, a chyfathrebu’n dda â nhw.

- Rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn i ddefnyddwyr gwasanaeth gan gynnwys cyffuriau rheoledig.

- Adnabod a rheoli risgiau yn y byrdymor a’r tymor canolig i sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn ddiogel a nodi risgiau y mae’n rhaid eu huwchgyfeirio i’r gweithiwr proffesiynol.

- Bod yn gyfrifol am gynnal gwaith ymyriadau ac atal, gan gynnwys achosion cymhleth, a fydd yn cefnogi unigolion â’u lles meddyliol, cymdeithasol a chorfforol a cheisio gwella eu canlyniadau tymor hir.

- Gweithio mewn partneriaeth gydag unigolion, eu teuluoedd ac asiantaethau eraill mewn ffordd gyson a rhagweithiol, gan ddefnyddio dull Arwyddion Diogelwch sy’n rhoi pwyslais ar gryfderau, gan gynnwys mewn amgylchiadau pan fo’r berthynas yn anodd.

- Rhoi gofal personol yn unol â’r cynllun gofal a chymorth ac yn cynnwys y technegau codi a chario cywir.

- Defnyddio technegau Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol neu Team Teach yn ôl cyfarwyddiadau’r cynllun gofal a chymorth.

- Rhoi datganiad llygad-dyst ar gyfer achosion cyfreithiol lle bo angen.

- Diweddaru systemau cofnodi yn ôl y galw i gadw cofnod o’ch gwaith.

- Gweithio yn ystod y dydd a’r nos ar rota dreigl. Bydd disgwyl i staff nos weithio yn ystod y dydd ar adegau i gyflenwi, hyfforddi neu oruchwylio. Bydd gofyn i staff dydd gyflenwi shifft nos fel rhan o hyfforddiant neu i gyflenwi.

- Gwneud unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n gymesur â lefel a disgwyliad y swydd, gan gynnwys pan fydd angen gweithio mewn Tîm ac/neu leoliad arall.

Sicrhau Ansawdd

- Rhoi gwybod i’r Tîm Rheoli am bob cwyn a chanmoliaeth.

- Trafod ac eirioli dros ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd ac eraill, yn ogystal â gyda nhw.

- Trefnu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd defnyddwyr gwasanaeth rheolaidd.

- Cadw cofnodion priodol yn unol â gofynion y Cyngor neu’r Gwasanaeth a darparu data pan fo hynny’n berthnasol.

Cyfrifoldebau Cyffredinol

- Hyrwyddo'r Gymraeg a dewis iaith defnyddwyr gwasanaeth yn ôl gofynion safonau’r Gymraeg a fframwaith Mwy na Geiriau.

- Hyrwyddo cyfle cyfartal wrth ddarparu gwasanaethau.

- Gweithio fel tîm a deall eich rôl a’ch cyfrifoldebau chi ynddo.

- Cadw gwybodaeth sy’n ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth, ymwelwyr a staff yn gyfrinachol.

- Sicrhau bod yr holl gofnodion Iechyd a Diogelwch a goruchwylio gofynnol yn cael eu cwblhau yn unol â pholisïau a systemau perthnasol.

- Hyrwyddo a pharchu hawliau defnyddwyr gwasanaeth i breifatrwydd, urddas a dewis.

- Hebrwng defnyddwyr gwasanaeth i fynd allan er mwyn iddynt gadw cysylltiadau cymunedol.

- Datblygu gwaith partneriaeth effeithiol gyda chydweithwyr mewnol ac allanol ac asiantaethau eraill.

- Cadw at ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol perthnasol, polisïau a gweithdrefnau mewnol mewn perthynas â materion proffesiynol a gweinyddol.

- Bod yn ymwybodol a gwybod am Strategaethau Cenedlaethol a Lleol perthnasol gan gynnwys y Strategaeth Integredig Gydol Oes a Lles.

- Mynychu cyfarfodydd tîm, sesiynau goruchwylio a chyrsiau hyfforddiant pan fydd yn briodol ac yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Llinell, ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Matthew Parry via email: Matthew.parry@ceredigion.gov.uk

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106811.pdf]

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.

Apply for this job

Related jobs

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 (Nos) - Cartref Gofal Preswyl Min y Môr

£25,583 to £25,989 per year, pro rata

Ceredigion County Council

On-sitePermanentPart time

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 - Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg

£25,583 to £25,989 per year

Ceredigion County Council

On-siteTemporaryFull time

Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaethau Asesu a Brysbennu Integredig

£35,412 to £40,777 per year, pro rata

Ceredigion County Council

Penmorfa

On-sitePermanentPart time
Browse more jobs