Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 3 - Tîm Llety Diogel i Blant
| Company: | Ceredigion County Council |
|---|---|
| Salary: | £28,598 - £30,518 |
| Hours: | Full-time |
| Location: | SA46 0PA |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Permanent |
| Posting date: | 18 Jul 2026 |
| Closing date: | 14 Aug 2026 |
Summary
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer rôl Lefel 3 – Gofal a Chymorth Nosweithiau Deffroo fewn ein darpariaeth Llety Diogel i Blant yng Ngheredigion. Bydd y rolau hyn yn gweithio ar rota dreigl ar gyfer sifftiau dydd a nos gan gefnogi anghenion y gwasanaeth. Bydd y rolau hyn yn cefnogi'r Rheolwr Cofrestredig a'r Rheolwr Cynorthwyol i ddarparu gofal a chymorth mewn sefydliadau cofrestredig.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn frwd dros hybu dull gweithredu o safbwynt arferion sy'n canolbwyntio ar y plentyn, bydd ganddo hanes cadarn o ran ei yrfa mewn gofal preswyl plant neu ddarpariaeth gofal a chymorth tebyg.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion fel gweithiwr i chi gan gynnwys lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol, cymorth cynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles, a chynllun hael o ran cyfraniadau pensiwn. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr ar gael yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn rhoi cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol eich rôl ond yn ogystal, byddwn yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Tra ein bod yn chwilio am Unigolion gyda rhywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau Cymraeg yn cael cynnig gwersi wedi'u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir ar ôl cael eu penodi.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â sefydliad cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/%20REQ106808.pdf]
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
For more details regarding this vacancy, please refer to the full job description on the Ceredigion County Council careers website.
Related jobs
Rheolwr Cynorthwyol - Tîm Llety Diogel i Blant
£35,412 to £37,280 per year
Ceredigion County Council
Penmorfa
On-sitePermanentFull timeGweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 (Wrth Gefn) - Tîm Llety Diogel i Blant
£26,403 to £27,694 per year
Ceredigion County Council
Penmorfa
On-siteTemporaryFull timeGweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 - Tîm Llety Diogel i Blant
£26,403 to £27,694 per year
Ceredigion County Council
Penmorfa
On-sitePermanentFull time