This is an experimental service. Give feedback (opens in new tab)

English |

Prentis Cyllid

Company:South Wales Fire and Rescue Service
Salary:£25,583 - £25,989
Hours:Full-time
Location:Pontyclun, CF72 8LX
Working pattern:On-site
Job type:Contract
Posting date:17 Jul 2026
Closing date:7 Aug 2026
Apply for this job

Summary

Ymgeisiwch erbyn: 07/08/2026 am 12:00, hanner dydd

Disgwylir llunio rhestr fer: w/c 10/08/2026

Disgwylir cynnal cyfweliadau: w/c 17/08/2026

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau gyrfa ym maes Cyllid? Ydych chi'n frwdfrydig ac yn drefnus, ac oes gennych chi ddiddordeb mewn cael profiad gwaith â thâl wrth ennill cymwysterau cydnabyddedig? Swydd dair blynedd yw hon lle byddwch yn ymgymryd â gweithgareddau ariannol yn ein Pencadlys yn Llantrisant.

Rydym yn falch o fod yn rhan o Raglen Brentisiaethau Cymru, sy'n darparu cyfleoedd gwerthfawr i brentisiaid ddatblygu sgiliau a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith, ac ennill cymhwyster. Mae'r cynllun hefyd yn galluogi prentisiaid i chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddarparu gwasanaeth i'n cymunedau.

Bydd y Brentisiaeth yn gyfle i chi:

• Ennill profiad gyda chyflogwr ag enw da mewn sefydliad mawr

• Datblygu sgiliau sy'n berthnasol i'r gwaith a fydd yn cynyddu eich cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol

• Sicrhau cymwysterau Cyfrifeg AAT, Lefel 2, 3 a 4

Nod y Brentisiaeth hon yw rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau a phrofiadau gwerthfawr sy'n berthnasol i'r gwaith. Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i symud ymlaen. Rydym yn cydnabod y gall dechrau swydd newydd fod yn gyffrous ac yn frawychus ar yr un pryd; byddwn yn cynorthwyo pob prentis newydd drwy ddarparu:

• Rhaglen sefydlu, wedi'i chynllunio i'ch helpu i ddod i adnabod a deall sut rydym yn gweithio

• Amrywiaeth o brofiadau gwaith o fewn eich maes arbenigedd

• Mentor, i ddarparu cymorth wrth i chi symud ymlaen gydol eich Prentisiaeth

• Arweiniad ar wneud cais am swyddi a chystadlu mewn prosesau recriwtio

• Cytundeb: Tymor Penodol o 3 Blynedd (Prentisiaeth)

• Gradd: 4

• Cyflog: £25,583 - £25,989

• Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos

• Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Corfforaethol

• Cyfeirnod y Swydd: 505004

• Lleoliad: Pencadlys, Llantrisant & ACT Training wedi'i leoli yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro

Apply for this job

Related jobs

Tiwtor - Coginio

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

RemoteContractPart time

Tiwtor Gwaith Ieuenctid

£32 to £32 per hour

Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales

RemoteContractPart time

Prentis Technegydd Cerbydau Modur

South Wales Fire and Rescue Service

Pontyclun, Wales

On-siteApprenticeshipFull time
Browse more jobs