Prentis Technegydd Cerbydau Modur
| Company: | South Wales Fire and Rescue Service |
|---|---|
| Salary: | Cyflog yn dibynnu ar oedra |
| Hours: | Full-time |
| Location: | Pontyclun, CF72 8LX |
| Working pattern: | On-site |
| Job type: | Apprenticeship |
| Posting date: | 14 Jul 2026 |
| Closing date: | 4 Aug 2026 |
Summary
Gwnewch gais erbyn: 4ydd Awst 2026 am 12:00, hanner dydd
Disgwylir i'r rhestr fer ddigwydd: w/c 10fed Awst 2026
Mae cyfle cyffrous i Brentis Technegydd Cerbydau Modur wedi codi yn y Gweithdai Fflyd a Pheirianneg yn ein Pencadlys yn Llantrisant. Mae'r Gwasanaeth yn gweithredu fflyd o dros 400 o gerbydau, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm, ac mae eu rôl yn cynnwys gwasanaethu, atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau, peiriannau ac offer arbenigol.
Mae swydd Prentis Technegydd Cerbydau Modur yn heriol ac yn werth chweil. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu ei lefel o arbenigedd technegol a gwybodaeth am weithio yn ddiogel trwy raglen o Addysg Bellach yn y gweithle ac amgylchedd y Coleg.
Dylai ymgeiswyr allu dangos lefel sylfaenol o allu mecanyddol. Mae awydd i ddysgu a deall y nifer o ddisgyblaethau peirianneg modurol sy'n rhan o sgiliau cyffredinol technegydd hefyd yn hanfodol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflawni'r cymwysterau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 a 3 ochr yn ochr â'u gwaith o ddydd i ddydd.
Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn derbyn dogfen gwrs gan Goleg Caerdydd a'r Fro sy'n manylu ar feysydd pwnc craidd y brentisiaeth.
Related jobs
Rheolwr Cyllid
£51,356 to £52,413 per year
South Wales Fire and Rescue Service
Pontyclun, Wales
On-sitePermanentFull timeRheolydd Ardal
£94,293 to £103,429 per year
South Wales Fire and Rescue Service
Pontyclun, Wales
On-sitePermanentFull timeGweinyddwr yr Uned Safonau Proffesiynol
£26,403 to £26,824 per year
South Wales Fire and Rescue Service
Pontyclun, Wales
On-sitePermanentFull time